Mark Hughes ddim eisiau swydd rheolwr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC yn deall nad oes gan Mark Hughes ddiddordeb yn swydd rheolwr tîm cenedlaethol Cymru.
Cafodd Hughes ei ddiswyddo gan Stoke ddydd Sadwrn, tra bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru'n cyfweld ar gyfer olynydd i Chris Coleman yr wythnos yma.
Hughes, 54, oedd rheolwr Cymru am bum mlynedd rhwng 1999 a 2004, ond dywedodd ffynonellau'n agos ato y byddai'n well ganddo reoli clwb - un ai yn Uwch Gynghrair Lloegr neu dramor.
Mae'r is-reolwr Mark Bowen hefyd wedi gadael Stoke, tra bod Cymro arall - Eddie Niedzwiecki - wedi cymryd rôl y rheolwr dros dro.
Bydd Craig Bellamy, Ryan Giggs ac Osian Roberts yn cael eu cyfweld am swydd rheolwr y tîm cenedlaethol yn yr wythnos nesaf.
Mae'r tri wedi mynegi eu diddordeb yn y swydd ar ôl i Coleman adael am Sunderland ym mis Tachwedd.
Ond dyw hi ddim yn glir os mai'r tri enw yma'n unig sydd ar y rhestr fer.
Mae'r gymdeithas bêl-droed yn gobeithio cael olynydd i Coleman mewn lle cyn i'r enwau ddod allan o'r het ar gyfer cystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd ar 24 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2018