Galw am newid system i ddewis yr arweinydd Llafur nesaf

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford yn credu y dylai pleidlais pob aelod Llafur gyfri'n gyfartal

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi dweud y dylai Llafur Cymru ddefnyddio'r un system ac y cafodd ei ddefnyddio i ethol Jeremy Corbyn er mwyn dewis eu harweinydd nesaf.

Cafodd Mr Corbyn ei ddewis yn arweinydd Plaid Lafur y DU dan system un-aelod-un-bleidlais.

Ond fe wnaeth pwyllgor gweithredol Llafur Cymru benderfynu ym mis Tachwedd yn erbyn mabwysiadu'r un system.

Mae Mr Drakeford, ynghyd â thri AC Llafur arall, wedi galw am wneud penderfyniad ar y mater yng nghynhadledd y blaid.

'Penderfyniad pwysig'

Mae'r arweinydd presennol, Carwyn Jones - sydd wedi cefnogi penderfyniad y pwyllgor gweithredol - wedi dweud fodd bynnag nad yw hynny'n gallu digwydd.

Dywedodd fod cynhadledd y blaid eisoes wedi penderfynu gadael i'r pwyllgor benderfynu ar y mater.

Fe wnaeth y pwyllgor ddewis cadw'r coleg etholiadol presennol - ble mae pleidlais aelodau yn cael ei ystyried ochr yn ochr ag undebau llafur, grwpiau eraill, ACau, ASau ac ASEau - i ddewis olynydd Mr Jones.

Wrth wneud hynny fe wnaethon nhw wrthod system un-aelod-un-bleidlais, ble mae pleidlais pob aelod o'r blaid yn cael ei chyfrif yn gyfartal.

Disgrifiad o’r llun,

System y coleg etholiadol fydd yn cael ei ddefnyddio i ddewis olynydd Carwyn Jones fel mae pethau'n sefyll

Yn ôl cefnogwyr y system un-aelod-un-bleidlais byddai'n system fwy democrataidd o ddewis arweinydd, ond mae'r rheiny sydd o blaid y coleg etholiadol yn dadlau ei fod yn ffordd well o gadw'r cysylltiad traddodiadol â'r undebau llafur.

Mae Mr Drakeford bellach wedi ymuno â'r ACau Mike Hedges, Julie Morgan a Mick Antoniw i ymgyrchu yn erbyn penderfyniad y pwyllgor gweithredol.

"Dwi hefyd yn credu y dylai penderfyniad mor bwysig â hyn gael ei wneud yng nghynhadledd y blaid [ym mis Ebrill]," meddai'r Ysgrifennydd Cyllid.

Roedd Mr Drakeford ymhlith dros 50 o aelodau'r blaid o 19 o etholaethau wnaeth gwrdd mewn cyfarfod yn Llandrindod ddydd Sadwrn er mwyn trafod y mater.

Penderfynu yn y gynhadledd

Dywedodd ei fod yn credu bod y pwyllgor gweithredol "wedi ymestyn diffiniad yr hyn ofynnwyd iddyn nhw wneud y tu hwnt i le ddylie'r ffin fod".

"Dydyn ni ddim yn cytuno gyda phenderfyniad y pwyllgor. Ond beth bynnag ry'n ni'n meddwl am y dadleuon o blaid ac yn erbyn, y prif beth yw y dylid gwneud y penderfyniad yn y gynhadledd sef prif gorff y blaid o ran gwneud penderfyniadau."

Ond mynnodd cadeirydd y pwyllgor gweithredol, Mike Payne, y dylai'r ACau hynny "dderbyn y penderfyniad democrataidd sydd wedi ei gymryd a throi eu sylw tuag at frwydro yn erbyn y Ceidwadwyr yn San Steffan".

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llafur Cymru fod y pwyllgor gweithredol yn "cynrychioli holl deulu Llafur Cymru" a bod pob aelod o'r pwyllgor "wedi eu hethol yn ddemocrataidd".