Apêl am Gymry Cymraeg i siarad â dynes â dementia

  • Cyhoeddwyd
Dementia
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddynes yng nghartref dementia arbenigol Severn View yn siarad y Gymraeg y rhan fwyaf o'r amser

Mae 'na apêl i Gymry Cymraeg ddod i siarad â dynes oedrannus sydd mewn cartref dementia yn Sir Fynwy.

Mae'r ddynes, sydd yn ei 80au, yn wreiddiol o Ben Llŷn ac yn siarad Cymraeg "90% neu fwy o'r amser", ond does neb o staff y cartref yng Nghas-gwent yn siarad yr iaith yn rhugl.

Yn ogystal â hynny, mae ei hacen ogleddol gref a'i chyflwr yn golygu nad ydy cyfathrebu gyda siaradwyr Cymraeg lleol wedi bod yn hawdd.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn apelio am wirfoddolwyr i sgwrsio â'r ddynes, wedi ymdrech aflwyddiannus i recriwtio gofalwr sy'n rhugl eu Cymraeg.

'Mynd 'nôl i'r famiaith'

Dywedodd Alan Burkitt o'r cyngor fod y ddynes wedi "mynd 'nôl i'r famiaith" yn sgil y dementia, a bod y trafferthion cyfathrebu yn achosi rhwystredigaeth iddi hi ac i staff cartref Severn View.

"Dwi'n credu eu bod nhw [yn y cartref] wedi cael pobl sy'n siarad Cymraeg o'r blaen," meddai.

"Ond mae'r fenyw yma, achos y dementia, mwy neu lai jyst yn siarad Cymraeg nawr - achos y dementia, dyna fel mae hi'n delio gyda phethe'."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Alan Burkitt, mae'r cyngor wedi cael trafferth dod o hyd i siaradwr Cymraeg i weithio fel gofalwr

Mae'n dweud ei bod hi'n "gwylltio" am nad ydy hi'n deall y staff yn siarad - a bod y staff ddim yn ei deall hi.

"Ambell waith, mae pethau'n mynd 'mbach o'i le 'na," meddai.

"Mae pobl 'na sydd â rhai sgiliau Cymraeg, ond mae angen rhywun sy'n gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a deall beth mae hi'n ddweud.

Roedd y cyngor sir yn bwriadu cyflogi gofalwr yn y cartref sy'n siarad Cymraeg yn rhugl, ond roedd dod o hyd i rywun yn "her" ac yn "dalcen caled ofnadwy" yn ôl Mr Burkitt.

Er gwaethaf ymdrechion i dynnu sylw at y swydd, dim ond un person ymgeisiodd, a doedd y person hwnnw ddim yn siarad yr iaith.

"Mae'n anodd yn yr ardal hon, ni ddim yn gyfarwydd â hysbysebu swyddi drwy gyfrwng y Gymraeg, a falle dydy pobl leol ddim yn gyfarwydd," meddai.

Dywedodd bod "digon o blant sy'n mynd i ysgol Gymraeg" yn yr ardal, ond mae'n credu bod rhai'n colli sgiliau a hyder wedi gadael addysg.

Dynes sy'n 'ysbrydoli'

Mae gan y ddynes deulu yn yr ardal, ac mae'n cael cyfle i siarad gyda'i merch.

Ond mae Mr Burkitt yn awyddus i gael gwirfoddolwyr i gyfathrebu â'r ddynes, sy'n gymeriad sy'n "ysbrydoli".

"Os mae posib cael pobl i ddod mewn, byddai hynny'n brilliant," meddai.

"Oes oes pobl leol, neu beth bynnag, sydd eisiau dod mewn, achos dyna beth sydd ei angen - y cyfle i gyfathrebu trwy'r famiaith."

Mae gofyn i wirfoddolwyr gysylltu â Mr Burkitt yng Nghyngor Sir Fynwy.

Fe fydd yr awdurdod lleol yn ail-hysbysebu'r swydd gofalwr "yn y dyfodol agos", o bosib gyda gofynion iaith gwahanol.