Y Cymro sy'n achub coedwigoedd Japan
- Cyhoeddwyd
Mae o wedi gorfod lladd eirth i amddiffyn ei fywyd, wedi cyflwyno 'karate' i'r gorllewin ac achub coedwigoedd yn Japan. Ydy, mae o wedi bod yn fywyd llawn antur i fachgen o Gastell-nedd.
Pan yn ddeunaw oed aeth CW Nicol i astudio hwyiaid mwythblu (eider ducks) yng nghylch yr Arctig a bu'n byw gyda phobl yr Inuit am gyfnod.
Mae'n debyg iddo gael ei fwlio pan roedd yn blentyn ac oherwydd hynny dechreuodd ymddiddori mewn karate gan symud i Japan i astudio'r grefft. Yn ddiweddarach aeth i'r brifysgol yno a dysgu'r Siapanaeg yn rhugl.
Roedd yr awch am antur yn parhau ac ar ddiwedd y ddegawd symudodd i Ethiopia i fod yn warden mewn parc bywyd gwyllt cyn dod yn ôl i Japan i sgwennu am ei anturiaethau yn Affrica.
Mae ei gyfrol Moving Zen gafodd ei chyhoeddi yn 1975 yn cael ei chydnabod fel y llyfr wnaeth gyflwyno karate i'r gorllewin.
Dechreuodd sgwennu llyfrau yn yr iaith frodorol a daeth yn arbenigwr ar faterion morwrol a chadwraethol. Enillodd wobr yn 1980 am ysgrifennu drama deledu yn y Siapanaeg.
Mae rhai o'i gyfrolau wedi eu cyfieithu i nifer o ieithoedd gan gynnwys yr iaith Coreaidd a'r Fongoleg.
Yng nghanol yr 80au fe brynodd hyd at 47,000km sgwâr o dir anghysbell yn Nagano, rhyw deir awr o daith ar y trên o Tokyo. Ac yno yn 2002 y sefydlodd Ymddiriedolaeth Coetir Afan, wedi ei enwi ar ôl coedwig yn ei fro enedigol yn y de.
Gweithiodd yn ddiflino gan ddefnyddio celfi traddodiadol a cheffylau i glirio tir diffaith, plannu coed a symud cerrig yn y nentydd er mwyn dyfrhau'r tir yn fwy effeithiol.
Erbyn heddiw mae yno 148 gwahanol fathau o goed. Mae'n gartref hefyd i rywogaethau prin o anifeiliaid yn ogystal ag eirth du a'r llwynog coch.
"Os y galla' i newid Japan a gwneud i'r bobl yma gymryd gofal o'r fforestydd yma, byddai'n hapus," meddai.