Penodi Stuart Andrew yn weinidog yn Swyddfa Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae AS o Sir Efrog, Stuart Andrew wedi ei benodi'n weinidog yn Swyddfa Cymru wrth i Theresa May ad-drefnu ei chabinet.
Cafodd Mr Andrew, AS Ceidwadol dros Pudsey, ei fagu yng ngogledd Cymru ac mae'n siarad Cymraeg.
AS Aberconwy, Guto Bebb, oedd yn gwneud y swydd, ond mae wedi cael swydd newydd gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Daeth cadarnhad ddydd Llun bod Alun Cairns yn parhau yn ysgrifennydd gwladol.
Wedi penodiad Mr Andrew, dywedodd: "Rydw i wrth fy modd croesawu Stuart Andrew i Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
"Rydw i wedi gweithio gydag o dros sawl blwyddyn ac yn gwybod y bydd yn llais gwych dros Gymru yn Whitehall ac yn gynrychiolydd ffantastig i Lywodraeth y DU yng Nghymru."