Galw am ragor o brofion ar symud mwd o Hinkley Point

  • Cyhoeddwyd
Llun artist o atomfa newydd Hinkley Point CFfynhonnell y llun, EDF
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o atomfa newydd Hinkley Point C

Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad yn bwriadu gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnal rhagor o brofion ar fwd fydd yn cael ei symud o'r arfordir ger gorsaf niwclear Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf i safle oddi ar Bae Caerdydd.

Ddydd Mawrth, wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Deisebu, dywedodd swyddogion CNC ei bod yn debyg y byddai'r broses o ddelio gyda'r cais ar gyfer symud y mwd yn "cael ei drin yn wahanol heddiw" i'r hyn ddigwyddodd nôl yn 2014.

Mae gwrthwynebwyr yn galw am atal y drwydded ac am gynnal rhagor o brofion ar y mwd, a fyddai'n cael ei godi o safle hen atomfeydd Hinkley Point A a B yng Ngwlad yr Haf.

Hefyd yn rhoi tystiolaeth ddydd Mawrth roedd CEFAS, asiantaeth Llywodraeth y DU wnaeth gynnal y profion gwreiddiol.

Maen nhw'n dweud eu bod yn fodlon ar y cyngor gafodd ei roi i CNC ar y pryd.

Pryder gwrthwynebwyr yw bod y mwd wedi ei heintio gan adweithwyr Hinkley.

Ond mae EDF Energy, y cwmni sydd am adeiladu atomfa newydd yn Hinkley Point C, wedi dweud fod y feirniadaeth yn groes i bob tystiolaeth wyddonol.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd gorsaf newydd Hinkley ger y ddwy atomfa sydd eisoes ar y safle

Bwriad y cwmni yw symud 300,000 tunnell o fwd.

Pan gafodd profion eu cynnal yn 2009 a 2013 roedd lefel ymbelydredd yn isel, ac o fewn y lefelau cyfreithiol.

Ond wrth roi tystiolaeth i ACau dywedodd CEFAS a CNC eu bod yn ystyried gwanhaol ffyrdd o dawelu pryder pobl leol a grwpiau amgylcheddol.

Cafodd y drwydded wreiddiol ar gyfer symud y mwd ei roi tra bod y cyfrifoldeb am reoleiddio yn cael ei drosglwyddo o Asiantaeth Amgylchedd Cymru i CNC.

Galw am ragor o brofion

Wrth drafod y cyfnod hwnnw, dywedodd John Wheadon, un ôl reolwyr CNC, y byddai'n gobeithio y byddai pethau yn cael eu gwneud yn wahanol pe bai'r cais yn cael ei chyflwyno heddiw a hynny "er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i gymunedau lleol".

"Mae yna ddigonedd o enghreifftiau lle cafwyd ceisiadau am drwydded a lle rydym wedi trafod gyda chymunedau lleol pe bai ni yn sylwi ar y lefel o ddiddordeb cyhoeddus."