Trafod symud mwd o gyffiniau atomfa i Fae Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni EDF sydd am symud 300,000 tunnell o fwd o Hinckley Point yng Ngwlad yr Haf i safle oddi ar Bae Caerdydd yn dweud fod honiadau fod y mwd yn "wenwynig" yn anghywir ac mai nod yr honiadau yw codi braw.
Roedd Chris Fayers, pennaeth amgylchedd EDF, yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mawrth.
Mae ymgyrchwyr wedi galw am gynnal rhagor o brofion ar y mwd, a fyddai'n cael ei godi o safle hen atomfeydd Hinkley Point A a B yng Ngwlad yr Haf.
Mae'n rhaid symud y mwd fel rhan o waith cychwynnol codi atomfa newydd Hinkley Point C, cynllun gwerth £19.6bn.
Dywedodd Mr Fayers fod y mwd wedi ei "brofi yn annibynnol dair gwaith, ac i safonau ceidwadol iawn".
"Mae'r safonau yn dderbyniol i Gyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth y DU a'r Cenhedloedd Unedig," meddai.
Ychwanegodd nad oedd y mwd yn "ymbelydrol" nac yn beryglus i iechyd cyhoeddus na'r amgylchedd.
Mae disgwyl i gasgliadau'r profion diweddara', gafodd eu cynnal yn Mai 2017, gael eu cyflwyno i'r rheoleiddwyr erbyn diwedd yr wythnos hon.
Deunydd ymbelydrol?
Mae dros 7,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am ohirio trwydded forwrol gafodd ei roi i'r cwmni gan Lywodraeth Cymru yn 2013.
Mae gan ddeiseb arall gan Greenpeace i gwmni EDF 87,000 o lofnodion, ac mae clymblaid o 10 o elusennau cadwraeth môr wedi anfon llythyr agored at yr Ysgrifennydd Ynni, Lesley Griffiths.
Pryder yr ymgyrchwyr ydy bod y mwd yn cynnwys deunydd ymbelydrol o safle Hinkley, ac maen nhw'n galw am archwilio samplau'n fwy manwl.
Doedd dim asesiad i'r effaith bosib ar yr amgylchedd cyn i'r cwmni gael caniatâd i symud y mwd mewn i safle sy'n cael ei 'nabod fel Cardiff Grounds, ychydig dros filltir i'r môr o Fae Caerdydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi delio â'r cais yn unol â gofynion cyfreithiol.
Mae asiantaeth Llywodraeth y DU, CEFAS, wedi cynnal profion ar y mwd, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi asesu'r canlyniadau wedi hynny.
Daethpwyd i'r casgliad bod lefelau ymbelydredd artiffisial mor isel y bydden nhw "ddim yn ymbelydrol" yn gyfreithiol.
O gyfuno lefelau ymbelydredd naturiol ac artiffisial, daw'r ymchwil i'r casgliad y byddai unrhyw niwed 10,000 gwaith yn llai na dos blynyddol peilot awyren, 750 gwaith yn llai na'r dos ar gyfartaledd o Radon i unrhyw un sy'n byw yn Sir Benfro, ac yn cyfateb i fwyta 20 banana'r flwyddyn - "lefel aruthrol o fychan i'r posibilrwydd o ymbelydredd".
'Profi samplau'
Dywedodd arweinydd yr ymgyrchwyr, yr ymgynghorydd llygredd morol Tim Deere-Jones, mai nod y ddeiseb yw perswadio'r ACau i gynnal adolygiad o'r holl wybodaeth sydd ar gael "cyn caniatáu cael gwared ar unrhyw ymbelydredd".
Mae cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad wedi galw ar gorff allanol i brofi samplau cyn symud y mwd.
Mewn llythyr at Gyfoeth Naturiol Cymru, dywedodd Mike Hedges AC bod angen "gwaith sylweddol i gyflwyno'r neges i'r cyhoedd yn lleol ac yn ehangach" petai hi'n dod i'r amlwg bod dim sail i'r pryderon ynghylch y cynllun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2017
- Cyhoeddwyd15 Medi 2016