Heddlu'n galw am wersi iechyd meddwl 'mwy cadarn'

  • Cyhoeddwyd
merchFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r heddlu'n galw am wella addysg iechyd meddwl mewn ysgolion, ar ôl cynnydd sylweddol mewn un ardal yn nifer y bobl ifanc sy'n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Cafodd 48 o blant a phobl ifanc eu cadw gan Heddlu De Cymru yn 2016/17, cynnydd o 33% ers y flwyddyn flaenorol.

Dywed y llu fod angen i addysg yng Nghymru "fod yn fwy cadarn", a bod angen i gartrefi gofal nodi arwyddion o broblemau iechyd meddwl.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod targed i gyfeirio pobl ifanc at wasanaethau iechyd meddwl o fewn 28 niwrnod.

'Peidio stigmateiddio'

Mae tystiolaeth fod problemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc wedi codi yn y blynyddoedd diwethaf, gyda rhai plant yn teimlo pwysau arholiadau, ac eraill yn dweud eu bod yn cael eu bwlio ar wefannau cymdeithasol.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod cadw plant a phobl ifanc dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn ddewis olaf i swyddogion.

Y dewis cyntaf yw mynd â phlant i fan diogel yn hytrach na'u gorfodi o dan y ddeddf, a hynny er mwyn "peidio â stigmateiddio'r plant".

Disgrifiad,

Angharad May ar raglen y Post Cyntaf yn croesawu'r galw am wella addysg iechyd meddwl

Mewn adroddiad fydd yn cael ei ystyried gan bwyllgor Cynulliad, dywedodd y llu: "Yn rhy aml, mae swyddogion yn cael eu gadael heb unrhyw ddewis ond i orfodi adran 136 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl, a hynny er lles y plentyn neu'r person ifanc.

"Nid yw plant yn mynd yn sâl yn sydyn, yna'n cael triniaeth am ychydig fisoedd ac yn cael eu gwella.

"Mae darpariaeth ystyrlon yn golygu cymryd camau ataliol i ddiogelu meddyliau pobl ifanc o oedran cynnar.

"Mae arnom angen system addysg llawer mwy cadarn yn ein hysgolion a'n cartrefi gofal i nodi arwyddion iechyd meddwl a strategaethau a chefnogaeth ar waith i helpu'r plant a'r bobl ifanc hyn."

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod tri o dan 17 oed wedi cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn 2015/16 ond nid oedd yr un achos wedi bod y llynedd.

Nid oedd Heddlu Gwent na Heddlu Dyfed-Powys yn gallu darparu ffigyrau.

Hunan-niwed ac anhwylderau bwyta

Dywedodd Samaritans Cymru fod mwy a mwy o bobl ifanc yn cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl, megis hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta.

Dywedodd yr elusen fod bron i 17,000 o bobl ifanc wedi cael eu derbyn i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru oherwydd hunan-niwed yn 2017 - cynnydd o 41% mewn tair blynedd.

Yn 2016 roedd 16 achos o hunanladdiad yn y grŵp oedran 15-19 yng Nghymru - y gyfradd uchaf mewn cyfnod o bum mlynedd.

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc.

Mae'r ymchwiliad yn dod ar ôl i weinidogion lansio cynllun peilot gwerth £1.4m ym mis Medi, lle bydd staff y GIG wrth law i roi gwell cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion yng ngogledd ddwyrain a de-ddwyrain Cymru a Cheredigion.

Yn y gorffennol, mae'r Undeb Addysg Genedlaethol wedi annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno swyddogion lles i ysgolion.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cwnsela wedi'i ddarparu ar gyfer dysgwyr ym mlwyddyn chwech, a phobl ifanc 11 i 18 oed ers 2013.

"Llynedd fe wnaethom gyhoeddi cyllid ar gyfer cynllun peilot i gydlynu arbenigwyr iechyd meddwl mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd mewn chwe ardal wahanol."