Carchar Pen-y-bont i ehangu cynllun nosweithiau rhieni
- Cyhoeddwyd
Mae carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu ehangu cynllun sy'n caniatáu i garcharorion gadw golwg ar gynnydd addysgol eu plentyn.
Dechreuodd Carchar y Parc gynnal nosweithiau i rieni yn 2014.
Mae'r nosweithiau'n cael eu cynnal chwe gwaith y flwyddyn, ac yn caniatáu i dadau eistedd gydag athro eu plentyn i drafod eu gwaith ysgol.
Y gobaith yw lleihau aildroseddu a ffordd o fyw sy'n gysylltiedig â throseddu.
'Manteision yn syth'
Dywedodd Corin Morgan-Armstrong, pennaeth ymyrraeth teuluol ar gyfer perchnogion carchar preifat G4S, eu bod wedi gweld yr "angen i ailgysylltu tadau â'u plant", ac yna wedi dechrau datblygu perthynas gydag ysgolion.
Bellach mae gan y carchar gysylltiadau gyda mwy na 50 o ysgolion yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
"Fe ddechreuon ni weld y manteision sy'n dod o'r nosweithiau rhieni hyn yn fuan iawn," meddai.
"Mae'n bwysig cofio y bydd 7% o holl blant y DU yn profi cael rhiant mewn carchar cyn iddynt adael yr ysgol, a bydd 65% o fechgyn gyda thad yn y carchar yn mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol eu hunain.
"Mae angen i hyn newid."
Mae'r cynllun ar gael ar hyn o bryd i garcharorion yn yr unedau teuluol a chyn-filwyr, ond dywedodd Mr Morgan-Armstrong y byddai'n ehangu i gynnwys poblogaeth y carchar i gyd eleni "oherwydd y llwyddiant".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2018