Achos Betty Guy: Ŵyr yn dweud ei fod am 'ddiweddu pethau'

  • Cyhoeddwyd
achos llofruddiaethFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Penelope John a Barry Rogers yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth

Fe wnaeth dyn sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio ei fam-gu ddweud wrthi un tro y byddai'n "diweddu pethau" os oedd pethau'n mynd yn ormod, yn ôl ei gyn-gariad.

Dywedodd Rhian Morris wrth Lys y Goron Abertawe ei bod hi wedi cyfarfod Barry Rogers dros y we tua 18 mis cyn i Betty Guy farw.

Yn ôl Ms Morris roedd gan Mr Rogers berthynas agos â'i fam-gu, ac fe fyddai'n ceisio codi ei chalon wrth i'w hiechyd ddirywio.

Roedd Betty Guy, oedd yn 84 oed pan fu farw ym mis Tachwedd 2011, yn wael ei hiechyd ers peth amser, ond doedd dim salwch terfynol arni.

Mae Barry Rogers, 33, a'i fam Penelope John, 50, wedi eu cyhuddo o lofruddio Mrs Guy wrth roi cyfuniad o gyffuriau ac alcohol iddi, cyn ei mygu.

'Mae'n bryd'

Dywedodd Ms Morris ei bod hi wedi clywed Mr Rogers yn dweud wrth Mrs Guy un tro: "Paid poeni mam-gu, os yw pethau'n mynd yn ormod fe wnâi ddiweddu pethau i chi."

Dim ond unwaith y gwnaeth hi ei glywed yn dweud hynny, meddai, ac ar y pryd roedd hi'n meddwl mai tynnu coes oedd e.

Ym mis Tachwedd 2011 dywedodd ei bod hi adref yng Ngwlad yr Haf gyda Mr Rogers pan ffoniodd Penelope John, ac fe glywodd hi Mr Rogers yn dweud: "Mae'n bryd, yw e?"

Gadawodd Mr Rogers i ymweld â'i fam-gu, a'r diwrnod canlynol dywedodd Ms Morris eu bod wedi siarad ar y ffon â'i fod yn swnio'n drist ac yn feddw.

Pan ddychwelodd Mr Rogers dywedodd Ms Morris ei fod wedi dweud wrthi fod Penelope John wedi rhoi wisgi gyda thabledi i Mrs Guy, a bod hynny wedi'i "gwneud hi'n gysglyd".

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Betty Guy ym mis Tachwedd 2011

Yn angladd Betty Guy, dywedodd Rhian Morris ei bod hi wedi'i gweld hi'n "od" nad oedd Barry Rogers wedi eistedd gyda'i fam, Ms John yn ystod y gwasanaeth.

Ar ôl marwolaeth Mrs Guy dywedodd Ms Morris fod ei pherthynas gyda Mr Rogers wedi "dirywio", a'i fod e wedi mynd yn ddyn mwy blin.

Un tro, meddai, dywedodd wrthi yn ystod ffrae y byddai'n "gwneud e yn dy gwsg, bydd neb byth yn gwybod", a'i fod wedi dal clustog at ei hwyneb.

Dywedodd fod Mr Rogers wedi ychwanegu: "Fe wnâi wneud e i ti fel nes i iddi hi", ond ei bod hi'n rhy ofnus i ofyn at bwy oedd e'n cyfeirio, a'i bod wedi cymryd mai am gyn-gariad yr oedd yn sôn.

Dywedodd Rhian Morris fod y berthynas wedi dod i ben tua 10 mis ar ôl marwolaeth Mrs Guy, pan geisiodd Mr Rogers ladd ei hun, ac nad oedd wedi'i weld eto ar ôl hynny.

'Digon ar fywyd'

Clywodd y llys dystiolaeth gan ferch arall i Betty Guy, Lorraine Matthews, a ddywedodd fod Penelope John wedi gadael neges ar ei pheiriant ateb yn dweud fod eu mam wedi marw.

Yn ôl Ms Matthews wnaeth Ms John ddim rhoi gwybod manylion y gwasanaeth amlosgiad iddi, a bu'n rhaid iddi ffonio cyfarwyddwyr angladdau lleol i gael gwybod y dyddiad.

"Fe wnaeth Penelope ddweud rhywbeth fel ei bod hi'n bryd iddi fynd, doedd hi ddim yn dda," meddai Ms Matthews.

"Gofynnais i Penelope pam nad oedd hi wedi ein ffonio ni'n gynharach os oedd mam mor wael."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Abertawe

Clywodd y llys hefyd gan Mary Collier, ffrind i Mrs Guy, a ddywedodd y noson cyn ei marwolaeth ei bod wedi dweud wrthi ei bod "wedi cael digon ar fywyd".

"Doeddwn i erioed wedi ei chlywed hi'n dweud unrhyw beth felly achos roedd hi'n ddynes hwyliog. Roedd hi'n ddynes hoffus oedd yn llawn bywyd," meddai Mrs Collier.

Ychwanegodd wrth roi tystiolaeth dros gyswllt fideo: "Dywedodd wrtha i ei bod hi'n flinedig. Roedd hi wedi cael digon ac roedd hi eisiau mynd."

Y diwrnod canlynol, meddai, cafodd yr alwad gan Penelope John yn dweud fod Betty Guy wedi marw, ac fe aeth draw i'w chysuro.

Mae Barry Rogers a Penelope Guy yn gwadu llofruddio Betty Guy, ac mae'r achos yn parhau.