Gwrthwynebiad i gynllun tai ar safle hen ysgol yn Llanbed
- Cyhoeddwyd
Mae gwrthwynebiad cynyddol i gynlluniau i godi 21 o unedau fforddiadwy ar safle hen Ysgol Gynradd Ffynnonbedr yn Llanbedr Pont Steffan a gaeodd rai blynyddoedd yn ôl.
Mae rhai o'r trigolion lleol yn dweud eu bod nhw'n amau gallu Tai Wales & West Housing i reoli'r safle ar Heol y Bryn, yn sgil problemau honedig gyda thenantiaid mewn rhannau eraill o'r dref.
Y bwriad yw dymchwel yr hen ysgol, a chodi 12 o fflatiau a naw tŷ fforddiadwy.
Mewn datganiad, dywedodd Tai Wales & West eu bod yn ffyddiog y gallan nhw dawelu pryderon pobl leol am y datblygiad.
Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn ystyried y cais cynllunio ar hyn o bryd.
Gwrthwynebu dymchwel
Un o'r rhai sy'n gwrthwynebu yw Gareth Jones, sy'n dweud na ddylai'r ysgol gael ei dymchwel.
"Mae hi'n ofid i mi fod yr ysgol 'ma yn mynd i gael ei dymchwel. Mae'n debyg yn y cynllun datblygu lleol, mae'r ysgol i fod i gael ei hamddiffyn," meddai.
"Dwi ddim yn ffafrio dymchwel yr adeilad yma, gellid ei droi fe yn fflatiau."
Mae'n gwrthod y cyhuddiad fod pobl leol yn gwrthwynebu'r cynllun am fod yna fwriad i godi unedau fforddiadwy: "Dwi ddim yn credu bod hynny yn elfen o gwbl.
"Mae yna ofidiau eraill, dwysedd y traffig, gofidiau am drigolion sydd yn cael eu lleoli gan y cwmni arbennig yma."
'Dim hyder'
Un arall sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y cynllun yw Helen Thomas: "Mae 'da ni bryderon sut y bydd Wales & West yn rheoli datblygiad mawr fel hyn yn Llambed.
"Maen nhw eisoes yn berchen ar dai yn y dref ar Heol y Bryn a Ffordd y Gogledd.
"Does 'da ni ddim hyder y bydden nhw yn medru cefnogi'r tenantiaid... mae un neu ddau o denantiaid ddim yn cael eu rheoli a'u cefnogi yn ddigon da."
Wrth ymateb i'r pryderon, dywedodd Tai Wales & West: "Rydym yn cydweithio â Chyngor Sir Ceredigion, Llywodraeth Cymru a Hacer Developments i ddefnyddio'r safle tir llwyd gwag hwn ar gyfer tai fforddiadwy, sydd eu hangen ar bobl yn ardal Llanbedr Pont Steffan."
Mae'r cwmni yn dweud y bydd dymchwel yr adeilad yn gwneud gwell defnydd o'r safle, a bod ymgynghoriad llawn wedi ei gynnal gyda phobl leol.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod "yn brofiadol wrth ymdrin â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol" a bod eu swyddogion arbenigol "yn gweithio'n agos gydag asiantaethau perthnasol i ddatrys materion o'r fath pan fyddan nhw'n codi".
"Ar hyn o bryd yn Llambed rydym yn gweithio gyda'r heddlu, yr awdurdod lleol ac asiantaethau eraill i gymryd y camau priodol i ddelio gyda digwyddiadau sy'n cael eu hadrodd," meddai'r cwmni.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Cynhaliodd y datblygwyr ymgynghoriad 'cyn-ymgeisio' gyda'r ardal ynglŷn â hen Adeilad Ysgol Ffynnonbedr, Llambed.
"Derbyniodd Cyngor Sir Ceredigion gais cynllunio ddechrau mis Rhagfyr ac mae'r cais o dan ystyriaeth gan adran gynllunio'r cyngor sir ar hyn o bryd."