Dysgu tafodiaith mewn ysgolion - y ffordd i gyrraedd y miliwn?
- Cyhoeddwyd
Sut i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Ar ddechrau 2018 mae Cymru Fyw wedi rhannu nifer o'ch argymellion chi. Ond, oes yna le i dafodieithoedd chwarae eu rhan wrth geisio cyrraedd y nod?
Mae Aled Thomas, 24, o Benarth, yn credu'n gryf mai dysgu tafodieithoedd Cymraeg mewn ysgolion ydy'r ffordd i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050...
Tafodiaith yw un o drysorau mwyaf yr iaith - ond beth allwn ni ei wneud i sicrhau dyfodol y tafodieithoedd Cymraeg?
Mae twf addysg Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn arbennig, a dros hanner canrif wedi bod yn syfrdanol.
Un ysgol gynradd Gymraeg yn unig oedd yn y brifddinas yn y '60au a buasai neb wedi breuddwydio y byddai yna 21 ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd heddiw.
Ond tra bod addysg Gymraeg yn tyfu, mae angen sicrhau bod tafodieithoedd ardaloedd Cymru'n cael eu gwarchod a'u trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.
Dylid dysgu tafodieithoedd yr ardal leol fel rhan hanfodol o ddysgu'r Gymraeg.
'Ar lafar yn unig'
Rwy'n meddwl bod dysgu am dafodiaith yn cyfoethogi ein diwylliant a'n hunaniaeth ni fel siaradwyr yr iaith.
Yw hi'n rhesymol felly i awgrymu y dylai'r cyfryngau yng Nghymru a datblygwyr y cwricwlwm cenedlaethol weithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r adnoddau sydd eu hangen i sicrhau parhad tafodieithoedd?
Fel rhywun sy'n siarad â dylanwad amlwg o Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, hoffwn weld ysgolion cynradd yr ardaloedd yn dysgu'r dafodiaith lafar i'w hannog i siarad yr iaith â'i gilydd fel hyn.
Fel y gwyddom, mae Cymraeg llafar yn aml yn wahanol i ffurf ysgrifenedig cyffredinol yr iaith felly er mwyn atal problemau ieithyddol rhag datblygu yn sgil hyn, rwy'n meddwl dylid dysgu tafodiaith yr ardal ar lafar yn unig.
Byddai dysgu'r ffordd y caiff geiriau eu dweud yn yr ardal lle maen nhw'n byw yn dysgu'r disgyblion fwy am eu hunaniaeth fel siaradwyr yr iaith ac fel trigolion yr ardal.
Rwy' ddim yn awgrymu y dylai disgyblion fod yn cael eu hasesu ar eu defnydd o dafodiaith gan taw rhywbeth naturiol ar lafar yn unig yw e i fod.
Yn y pendraw, byddai'r diwylliant hwn o warchod tafodiaith yr ardal yn annog disgyblion i siarad Cymraeg â'i gilydd.
Ymateb ar Facebook
Roeddwn i wedi cynnal trafodaeth yn ddiweddar ar grŵp Facebook 'Iaith' a chafwyd nifer o safbwyntiau gwahanol.
Roedden nhw wedi gwneud i mi feddwl yn ofalus bod angen gwneud mwy na dysgu'r ffurf gyffredinol o'r iaith Gymraeg. Does dim angen creu fersiwn perffaith o'r iaith Gymraeg.
Dywedodd un: "Mae angen dysgu fwy am dafodiaith er mwyn gwneud yr iaith yn ddigon naturiol i'w siarad."
Dywedodd person arall, yn achos y Wenhwyseg, bod angen derbyn bod yr iaith Gymraeg yn esblygu a rhaid edrych ar y dafodiaith newydd sy'n datblygu ymhlith pobl ifanc.
Bydd clywed tafodieithoedd yn helpu disgyblion i ddeall yr iaith yn well ac ni fydd yn eu drysu.
Hefyd o ddiddordeb
Mewn ardal fel Caerdydd, lle ceir siaradwyr Cymraeg o bob rhan o Gymru, buasai hi'n anodd penderfynu ar ba dafodiaith i ddysgu yn yr ysgol achos bod gan bawb dafodiaith wahanol i'w gilydd.
Ond yn llefydd fel Caernarfon ac Aberteifi, dylai tafodiaith yr ardal gael ei ddysgu yn yr ysgol.
Felly sut mae gweithredu polisi mewn un rhan o Gymru ond ddim yn rhan arall? Oes rhaid ail-ddeffro'r hen Gymraeg traddodiadol oedd yng Nghaerdydd?
Dyna pam rwy'n awgrymu taw ar lafar yn unig mae angen dysgu tafodiaith.
Rwy'n meddwl gall y cyfryngau gyfrannu drwy greu casgliad o Gymraeg lafar dafodieithol pob ardal o Gymru, ble bynnag mae'n bosibl ac wedyn cyflwyno'r eirfa i'r ysgolion o fewn yr ardaloedd hynny.
Gellir dadlau bod disgyblion ysgolion Cymraeg yn dysgu am dafodiaith yn barod wrth ddarllen nofelau a darnau ysgrifenedig lle welir tafodiaith draddodiadol yr awdur yn ysgrifenedig o fewn deialog. Ond nid yw disgyblion yn cael eu dysgu i siarad mewn tafodiaith.
Mae angen i'r llywodraeth ddatblygu cwricwlwm Cymraeg newydd sy'n cynnwys dysgu tafodiaith Cymraeg ar lafar yn ogystal â ffurf gyffredinol yr iaith Gymraeg fel rhan hanfodol o gynyddu siaradwyr yr iaith i filiwn. O ganlyniad bydd yr iaith yn fyw, yn ddiddorol a lliwgar naturiol.
Os bydd tafodieithoedd yn marw, ni fydd yr iaith Gymraeg yn bell ar eu hôl.