Bordeaux-Begles 36-28 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
DreigiauFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Trosodd Dorian Jones dair cic gosb i'r Dreigiau

Colli oedd tynged y Dreigiau oddi cartre yn Bordeaux yng Nghwpan Her Ewrop, er gwaethaf perfformiad penderfynol.

Gyda sawl chwaraewr allan oherwydd anafiadau, roedd y Dreigiau'n wynebu talcen caled, ond fe ddechreuon nhw'n bwerus.

Roedden nhw ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf o 16-3, diolch i gais gan James Benjamin a thair cic gosb i Dorian Jones.

Ond er gwaethaf dau gais arall yn yr ail hanner, i Sarel Pretorius a Carl Meyer, fe brofodd Bordeaux yn rhy gryf yn y chwarter olaf, gan ddod a'u â'u gobeithion o gamu mlaen yn y gystadleuaeth i ben.

'Siomedig ond balch'

Wedi'r gêm, dywedodd prif hyfforddwr y Dreigiau, Bernard Jackman eu bod yn "siomedig ond balch".

"Siomedig na chawson ni'r fuddugoliaeth, oherwydd ro'n i'n meddwl bod modd cyflawni hynny.

"Ond os edrychwch chi ar y sefyllfa ry' ni ynddi o ran anafiadau... roedd ymateb y chwaraewyr yn dda."