Cwpan Her Ewrop: Gleision 18-13 Toulouse
- Cyhoeddwyd
Bydd Gleision Caerdydd yn chwarae yn chwarteri Y Cwpan Her Ewropeaidd wedi buddugoliaeth o bum pwynt yn erbyn Toulouse.
Ond doedd hi ddim yn gêm hawdd.
Tybiodd pawb fod y tîm cartref wedi cael dechrau ardderchog gyda chais i Nick Williams ar ôl chwe munud o'r gêm. Ond wedi edrych ar y TMO gwelwyd ei fod yn camsefyll.
Ond o fewn munud o chwarae cafwyd gwobr gysur drwy gic gosb lwyddiannus gan Jarrod Evans. Roedd y chwarae yn dynn wedyn a daeth Kolbe yn agos iawn i roi Toulouse ar y blaen ar ôl 24 munud ac roedd tacl Cuthbert yn allweddol.
Funud yn ddiweddarach wedi pasio medrus iawn fe groesodd Kolbe y gwyngalch a thrwy gicio cywir Ramos roedd Toulouse ar y blaen.
Ond ni thorrodd hynny galon y Gleision ac ar yr hanner awr - wedi chwarae celfydd gan Gareth Anscombe - roedd yna gais gan Tomos Williams.
Ychwanegodd Evans ddau bwynt drwy drosiad a gosod y Gleision dri phwynt ar y blaen ond ar hanner amser dyma Toulouse yn cipio tri phwynt drwy droed Ramos.
Fe greodd y Gleision drafferth iddynt eu hunain ar ddechrau'r ail hanner ond gyda Toulouse yn bygwth rhyng-gipiodd Smith y bêl a symud y gêm yn ddwfn i hanner Toulouse.
Ond ni fanteisiodd y Gleision ar y newid a pharhau yn gyfartal wnaeth y ddau dîm. Nid oedd yr un o'r ddau dîm am ildio ac ar ôl deg munud o'r ail hanner ychwanegodd Ramos dri phwynt at sgôr y Ffrancwyr drwy gic gosb.
Roedd y Cymry yn ei chael hi'n anodd a chamgymeriadau yn y chwarae yn creu problemau.
Ond yna wedi i rai o'r eilyddion ddod i'r cae ac wrth i Cuthbert dorri drwy linell Toulouse aeth Anscombe dros y gwyngalch yn y gornel ond methodd sicrhau trosiad.
Roedd y Gleision ar y blaen 15 i 13 gydag ugain munud tan ddiwedd y gêm.
Roedd yr ugain munud olaf yn llawn tensiwn. Gyda deg munud yn weddill roedd hi'n edrych yn debyg fod Josh Turnbull wedi cipio cais oddi ar ymylon y ryc ond nid oedd y TMO yn cytuno.
Roedd y gêm yn fywiog iawn erbyn hyn a gyda dim ond tair munud yn weddill cafwyd cic gosb i'r Gleision a thrwy anelu'n berffaith rhoddodd Anscombe ei dîm ymhellach ar y blaen o 18-13.
Buddugoliaeth felly i'r Gleision ac er nad oedd hi'n gêm hardd roedd hi'n ddigon i sicrhau fod y Gleision yn enillwyr eu grŵp ac felly yn ennill eu lle yn y chwarteri waeth beth fydd canlyniad y gêm yn Lyon yr wythnos nesaf.