Canfod corff dyn lleol oedd wedi mynd i gerdded yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod corff dyn wedi cael ei ganfod ar fynydd Tryfan yn Eryri.
Roedd y dyn, oedd yn byw yn lleol, wedi mynd i gerdded ar y mynydd ddydd Sul ac roedd ganddo'r offer priodol.
Fe aeth tua 40 o wirfoddolwyr achub mynydd allan dros nos ar ôl derbyn galwad fod person wedi mynd ar goll.
Ond doedd dim modd iddyn nhw ddefnyddio hofrennydd achub i'w cynorthwyo oherwydd y tywydd garw.
Cafodd y dyn ei ganfod am tua 10:30 fore Llun ar waelod ceunant ger ochr orllewinol y mynydd, ac fe aeth y timau achub mynydd ati i gasglu'r corff.
Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n credu fod y farwolaeth yn un amheus, ac mae teulu'r dyn wedi cael gwybod.