Penodi Ryan Giggs yn rheolwr newydd tîm pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau penodiad Ryan Giggs fel rheolwr newydd Cymru ar gytundeb pedair blynedd.
Mewn cynnal cynhadledd i'r wasg brynhawn Llun dywedodd Giggs, 44, ei fod yn "hynod falch a chyffrous" i gael y swydd.
Fe wnaeth CBDC ddewis Giggs fel olynydd Chris Coleman ar ôl cynnal cyfweliadau'r wythnos diwethaf.
Yr enwau eraill i gael eu cyfweld ar gyfer y swydd oedd Craig Bellamy, Osian Roberts a Mark Bowen.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fe wnaeth cyn-asgellwr Manchester United a Chymru ennill 64 cap dros ei wlad a sgorio 12 gôl mewn gyrfa ryngwladol wnaeth bara 16 mlynedd.
Ar ôl iddo ymddeol o chwarae cafodd gyfnod fel is-reolwr Manchester United, ac roedd yn un o'r bobl gafodd ei gyfweld am swydd rheolwr Abertawe cyn i'r Elyrch benodi Bob Bradley.
Roedd CBDC wedi bod yn awyddus i benodi rheolwr newydd cyn i grwpiau Cynghrair y Cenhedloedd, fydd yn dechrau ym mis Medi, gael eu dewis ar 24 Ionawr.
'Anrhydedd'
Yn dilyn y penodiad, dywedodd Giggs ei fod yn "eithriadol o falch o gael yr anrhydedd" o reoli'r tîm cenedlaethol.
"Mae'n gyfle gwych a dwi'n gyffrous iawn," meddai.
"Hoffwn i feddwl y byddai yr un math o reolwr ac oeddwn i fel chwaraewr, yn broffesiynol ond hefyd yn rhywfaint o hwyl ar hyd y ffordd."
Ychwanegodd: "Mae gen i grŵp gwych o chwaraewyr i weithio gyda nhw sydd wedi bod mor llwyddiannus dros y pedair, pum mlynedd diwethaf.
"Pwy all anghofio ein gwylio ni yn yr Euros? Dwi eisiau ein cael ni nôl i fanno.
"Dwi'n meddwl bod cydbwysedd da. Mae chwaraewyr profiadol a chwaraewyr ifanc da yn dod drwyddo ac allai ddim aros i weithio gyda nhw."
Cadarnhaodd Giggs y byddai Osian Roberts yn aros yn ei swydd fel Rheolwr Technegol CBDC, ond dywedodd y byddai'n rhaid "cael sgwrs" i weld a fyddai'n parhau yn ei rôl fel is-reolwr y tîm.
"Mae gen i syniadau, ond dim byd wedi'i benderfynu eto," meddai wrth drafod ei staff cynorthwyol.
"Roedd hi'n anodd cysylltu â'r bobl oedd gen i mewn golwg achos doeddwn i heb gael y swydd eto. Mae hynny'n rhywbeth sydd angen i mi weithio arno dros y dyddiau nesaf."
Dywedodd Prif Weithredwr CBDC, Jonathan Ford: "Gyda'i brofiad o chwarae, hyfforddi a rheoli'r clwb mwyaf yn y byd, rydym yn hyderus y bydd dyfodol llwyddiannus i'r Tîm Cenedlaethol."
Bydd gemau cyntaf Giggs wrth y llyw yng Nghwpan China ym mis Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2017