Sut hwyl gafodd rheolwyr tîm pêl-droed Cymru dros y degawdau?

  • Cyhoeddwyd
giggsFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Ryan Giggs yw rheolwr newydd tîm pêl-droed Cymru. Ond faint o lwyddiant gaiff cyn-asgellwr Manchester United wrth adeiladu ar y seiliau osododd Chris Coleman a Gary Speed?

Cyn haf rhyfeddol Euro 2016, boddi yn ymyl y lan wnaeth y tîm cenedlaethol sawl gwaith. Ond wrth edrych yn ôl ar hanes rheolwyr Cymru dros y degawdau, weithiau, doedd y lan ddim hyd yn oed yn agos chwaith!

1950au

Cyn 1954 roedd y tîm cenedlaethol yn cael ei ddewis gan banel, gyda'r capten yn gyfrifol am hyfforddi'r garfan.

Walley Barnes o Aberhonddu oedd rheolwr cyntaf Cymru, ac roedd wrth y llyw am naw gêm rhwng Mai 1954 ac Ebrill 1956.

Ffynhonnell y llun, Popperfoto
Disgrifiad o’r llun,

Walley Barnes, rheolwr cyntaf garfan cenedlaethol Cymru

Wedi cyfnod Barnes, Jimmy Murphy o'r Rhondda gymrodd yr awenau. Roedd Murphy yn rheolwr ar dîm Manchester United am gyfnod tra roedd Matt Busby yn cael triniaeth ysbyty wedi trychineb Munich yn 1958. Doedd Murphy ddim ar yr awyren gan ei fod gyda charfan Cymru yn paratoi ar gyfer gêm yn erbyn Israel.

Murphy yw'r unig reolwr i arwain carfan Cymru i rowndiau terfynol Cwpan y Byd. Yn Sweden yn 1958 cyrhaeddodd Cymru rownd yr wyth olaf cyn colli i Frasil, gyda chwaraewr 17 oed o'r enw Pelé yn sgorio unig gôl y gêm. Beth ddigwyddod iddo fo tybed?

Ffynhonnell y llun, Popperfoto
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jimmy Murphy 15 o gapiau dros Gymru rhwng 1933 a 1935 cyn mynd 'mlaen i reoli'r garfan yn 1956

1960au

Daeth cyfnod Jimmy Murphy wrth y llyw i ben yn 1964. Ei olynydd oedd Dave Bowen, capten tîm Cymru yng Nghwpan y Byd 1958. Roedd cyn-chwaraewr Arsenal wedi cael llwyddiant fel rheolwr Northampton gan eu llywio o'r hen bedwaredd adran i'r adran gyntaf.

Mae'n deg dweud na chafodd o'r un llwyddiant yn ei ddegawd fel rheolwr Cymru. Llwyddodd y tîm i ennill 11 o'r 57 gêm dan ei arweiniad.

Ffynhonnell y llun, Bob Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dave Bowen (ar y dde) gyda'r hyfforddwr Cyril Lea yn Wembley cyn i Gymru wynebu Lloegr yn 1973

1970au

Yn 1974 Mike Smith oedd y Sais cyntaf i'w benodi yn rheolwr ar y tîm cenedlaethol. Yn ystod y cyfnod yma roedd chwaraewyr fel John Toshack, Brian Flynn,Terry Yorath a Dai Davies yn ffurfio asgwrn cefn dibynadwy i'r tîm.

Roedd yn rhaid i Gymru guro'r Alban yn Anfield yn 1977 i sicrhau lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Yr Ariannin, ond diflannu wnaeth y breuddwydion hynny diolch yn bennaf i gic o'r smotyn ddadleuol. Joe Jordan oedd wedi llawio'r bêl ac nid y Cymro David Jones. Enillodd yr Alban 2-0.

Ffynhonnell y llun, Chris Cole
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Mike Smith ymlaen i reoli tîm cenedlaethol Yr Aifft, lle enillodd Pencampwriaeth Affrica yn 1986

1980au

Yn 1980 Mike arall gymrodd yr awennau, Mike England, cyn-amddiffynnwr Tottenham Hotspur. Roedd cyfnod y gŵr o Dreffynnon yn un gobeithiol. Cafodd Lloegr grasfa o 4-1 yn Wrecsam a daeth y tîm o fewn trwch blewyn i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd Sbaen yn 1982.

Ond Czechoslovakia aeth i Sbaen ar wahaniaeth goliau wedi i Gymru golli 3-0 yn erbyn yr Undeb Sofietaidd yn y gêm ragbrofol olaf.

Ffynhonnell y llun, Bob Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd England yn amddiffynwr i Blackburn Rovers a Tottenham Hotspur a chafodd 44 cap dros Gymru (1962-75)

Yn 1988 daeth cyfnod Terry Yorath wrth y llyw. Roedd cyn-reolwr Abertawe wedi etifeddu carfan ddawnus gyda Mark Hughes, Ian Rush, Kevin Ratcliffe a Neville Southall ymhlith sêr mwya'r cyfnod.

Ond er gwaetha' buddugoliaeth gofiadwy o gôl i ddim yn erbyn yr Almaenwyr, Pencampwyr y Byd yn 1991, doedd yna ddim trip i rowndiau terfynol Cwpan y Byd i fod. Tarodd cic o'r smotyn Paul Bodin yn erbyn y trawst a olygai mai Rwmania fyddai'n treulio haf 1994 yn America.

Ffynhonnell y llun, Bob Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Daeth torcalon i garfan Yorath wrth iddyn nhw fethu â chyrraedd Cwpan y Byd 1994, gan golli 2-1 yn erbyn Rwmania yng Nghaerdydd

1990au

Ar ôl i John Toshack ymddiswyddo wedi ond un gêm wrth y llyw (colli 3-1 yn erbyn Norwy) daeth Mike Smith yn ei ôl am yr ail dro yn 1994. Doedd hi ddim yn hawdd cynnau tân ar hen aelwyd ac fe roddodd y gorau i'r swydd flwyddyn yn ddiweddarach.

Sais arall, Bobby Gould, gafodd y dasg o geisio arwain Cymru i Euro '96 yn Lloegr a Chwpan y Byd Ffrainc '98. Roedd cyn-ymosodwr Arsenal a Wolves wedi creu gwyrthiau wrth arwain Wimbledon i fuddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Lerpwl yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn 1988 ond doedd 'na ddim campau tebyg tra roedd yn arwain y tîm cenedlaethol. Collodd Cymru yn Moldofa a chael cweir o 5-0 yn Georgia. Cyfnod i'w anghofio yn sicr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mike Smith a Bobby Gould yw'r unig ddau o du allan i Gymru i reoli'r tîm cenedlaethol

2000au

Roedd y sefyllfa yn fwy llewyrchus am gyfnod dan arweiniad Mark Hughes. Roedd 'na fuddugoliaeth fawr yn Stadiwm y Mileniwm o 2-1 yn erbyn Yr Eidal yn 2002, ond roedd 'na ragor o dorcalon wrth i Gymru fethu â chyrraedd Euro 2004. Colli wnaethon nhw yn erbyn Rwsia yn y gemau ail-gyfle.

Yn 2004 tro John Toshack oedd hi unwaith eto. Roedd cyn ymosodwr Lerpwl wedi cael llwyddiant yn hyfforddi ar y cyfandir ac wrth gwrs y fo oedd tu ôl i esgyniad Abertawe o waelodion y bedwaredd adran i frig yr adran gyntaf.

Ar y cae, doedd o ddim yn gyfnod cofiadwy i'r tîm cenedlaethol ond cafodd nifer o chwaraewyr ifanc gyfle i ddangos eu doniau, ac fe dalodd y feithrinfa gynnar honno ar ei chanfed i Chris Coleman yn ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Ian Walton
Disgrifiad o’r llun,

Roedd John Toshack yn ymosodwr dros Gaerdydd, Lerpwl ac Abertawe, ac fe reolodd un o dimau mwyaf y byd ddwywaith, Real Madrid

2010au

Brian Flynn oedd y rheolwr dros dro ar gyfer dwy golled yn erbyn Bwlgaria a'r Swistir yn Hydref 2010, cyn i Gary Speed gael ei benodi fel rheolwr yn 2011.

Dechrau digon siomedig gafodd Speed, ond fe wellodd y canlyniadau ac roedd hi'n edrych yn addawol i'r tîm cenedlaethol. Ond cafodd y byd pêl-droed ei siglo i'w seiliau gyda'r cyhoeddiad am ei farwolaeth sydyn yn 42 oed ym mis Tachwedd 2011.

Disgrifiad o’r llun,

Gary Speed oedd y rheolwr cenedlaethol am 10 gêm yn ystod 2011, gan ennill 5 a cholli 5

Tasg anodd oedd hi i Chris Coleman olynu ei ffrind. Ond wedi dechrau sigledig fe gafodd gefnogaeth y genedl.

Cyrhaeddodd Cymru rownd gynderfynol Euro 2016 gan guro Slofacia, Rwsia, Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg ar y ffordd.

Daeth Cymru yn agos eto at gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd cyn colli gartref yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ym mis Hydref, 2017.

Drosodd atat ti Ryan!

Ffynhonnell y llun, Clive Rose
Disgrifiad o’r llun,

Chris Coleman yn dathlu buddugoliaeth Cymru yn erbyn Gwald Belg yn ystod Euro 2016