Llofruddiaeth Casnewydd: Arestio dyn

  • Cyhoeddwyd
pagetFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 57 oed yng Nghasnewydd wedi arestio dyn mewn cysylltiad â'r farwolaeth.

Fe gafodd corff Anthony Bubbins ei ddarganfod mewn cyfeiriad ar Ffordd Brynderwen gan swyddogion yn y ddinas am tua 15:30 ddydd Llyn.

Mae teulu Mr Bubbins wedi cael gwybod am y farwolaeth ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddog arbenigol.

Nid yw achos y farwolaeth wedi'i gadarnhau eto.

Mewn datganiad, dywed Heddlu Gwent eu bod yn trin marwolaeth Mr Bubbins fel un amheus ac yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth.

Fel rhan o'r ymchwiliad, mae swyddogion wedi arestio Paul Paget, 54 oed o ardal Casnewydd.

Fe wnaeth yr heddlu apêl i ddod o hyd i Mr Paget yn gynharach, ond fe gafodd ei ganfod a'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn ardal Dyfnaint brynhawn dydd Mawrth.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth i'r ymchwiliad gysylltu gyda'r heddlu drwy ffonio 101.