Cytuno ar reolau llymach ar bysgota mewn afonydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod nifer yr eogiaid a'r sewin yn afonydd Cymru wedi cyrraedd eu lefel isaf erioed.
Daw rhybudd y corff sydd yn gyfrifol am yr amgylchedd yng Nghymru wrth iddyn nhw gytuno ar reolau newydd gyda'r bwriad o warchod dyfodol pysgodfeydd.
Ond mae rhai pysgotwyr wedi dweud eu bod yn pryderu am effaith rhai o'r cyfyngiadau sydd wedi eu hawgrymu, gan gynnwys cwtogi'r tymor pysgota a rheoli faint o bysgod sy'n gallu cael eu cadw.
Byddai unrhyw reolau newydd yn dod i rym am ddeng mlynedd, gydag adolygiad ar ôl pum mlynedd.
'Nid jyst pysgotwyr'
Ddydd Iau fe wnaeth tîm pysgodfeydd CNC gwrdd ag aelodau'r bwrdd i drafod y ffordd ymlaen, ac yn y pen draw bydd yr argymhellion yn cael eu cyflwyno i'r Ysgrifennydd Amgylchedd, Lesley Griffiths.
Ymhlith y mesurau gafodd eu cymeradwyo mae gorfodi pysgotwyr i ryddhau bob eog sydd yn cael eu dal, a chyfyngiadau llymach ar ddal sewin.
Ond dyw hynny ddim wedi plesio pysgotwyr sydd yn dweud fod llygredd amaethyddol, newid hinsawdd a chynnydd yn nifer yr adar ysglafaethus yn gyfrifol am y gostyngiad yn niferoedd y pysgod.
Maen nhw'n dweud y gallai'r rheolai newydd effeithio ar dwristiaeth, sydd werth tua £150m y flwyddyn i economi Cymru ac yn cynnal 1,500 o swyddi.
"Os na allwn ni gadw samwn, mae hwnna'n lot o arian i roi lan," meddai Ian Harries, un o aelodau Cymdeithas Rhwydwyr Cwrwgl Afon Teifi yng Nghilgerran.
"Y peth gwaethaf yw so nhw am i ni bysgota ym mis Ebrill, i ddala penllwydion mawr. Mae hwnna wedyn yn effeithio'n tymor i ni yn rhyfeddol, achos falle fyddwn ni ddim yn gallu dal digon o benllwydion ym mis Mai a mis Mehefin i dalu am y license."
Ychwanegodd pysgotwr arall, Dan Rogers: "Ni wir yn poeni bod CNC yn mynd i gymryd 40% o'r tymor bant o ni, maen nhw'n mynd i fynd ag un math o bysgodyn bant oddi wrthon ni, ond maen nhw dal isie'r un cymaint o license fee oddi wrthon ni."
"Mae lot mwy o effeithion tu fas i bysgota sydd yn cael effaith mawr ar yr afon, a ddim jyst pobl fel ein hunain."
Gorfodi
Yn ôl Tim Jones, cyfarwyddwr gweithredol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, maen nhw wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad diweddar wrth lunio'r rheolau newydd.
"Beth 'dan ni'n sôn rŵan ydi bod pobl yn cael eu gorfodi i adael unrhyw eog neu sewin maen nhw'n dal i fynd o dan amodau yn afonydd Cymru," meddai.
"Mae hwn 'di bod yn rhywbeth gwirfoddol, mewn rhai afonydd mae wedi bod yn llwyddiannus, mewn rhai afonydd dydi o ddim wedi bod mor llwyddiannus.
"Beth 'dan ni'n trio gwneud rŵan ydi neud yn sicr bod ni'n rhoi'r siawns gorau i'n plant ni a'u plant nhw weld eog a sewin gwyllt yn afonydd Cymru."
Llynedd fe benderfynodd cwrwglwyr Afon Teifi i ddychwelyd bob eog oedd yn cael eu dal o'u gwirfodd.
Ond yn ôl Dan Rogers, mae'n bryd i Gyfoeth Naturiol Cymru feddwl am dreftadaeth a diwylliant pysgota'r afonydd yn ogystal â'r pysgod eu hunain.
"Ni'n pryderu am ein ffordd ni o bysgota, mae'n rhaid i ni gael cefnogaeth oddi wrthyn nhw 'fyd," meddai.
"Ni 'di cefnogi nhw, mae'n amser iddyn nhw nawr drio cefnogi ni."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd Gweinidog yr Amgylchedd Lesley Griffiths yn ystyried argymhellion Cyfoeth Naturiol Cymru mewn manylder.