Plant tlawd yn fwy tebygol o dangyflawni yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yn tangyflawni o gymharu â phlant eraill, yn ôl adroddiad gan un elusen.
Dywed Achub y Plant fod tlodi yn gallu niweidio cyfleoedd disgyblion trwy gydol eu gyrfa addysg a thrwy eu bywydau.
Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i wella darpariaeth addysg a gofal yn y blynyddoedd cynnar.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw'n ymrwymedig i daclo tlodi a sicrhau bod plant o bob cefndir yn cael y dechrau gorau ar fywyd.
Strategaeth ddim yn gweithio
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru yn dweud nad yw strategaeth Llywodraeth Cymru yn gweithio.
Dywed yr adroddiad fod plant sy'n byw mewn tlodi yn fwy tebygol o berfformio'n waeth o ran lefel eu geirfa, y gallu i ddarllen, datrys problemau a sgiliau eraill hyd yn oed cyn iddyn nhw gyrraedd yr ysgol.
Mae Achub y Plant yn dweud fod y blynyddoedd cynnar yn gyfnod allweddol mewn datblygiad plentyn - ac mae'r rhai sydd ar ei hôl hi yn y cyfnod hwnnw yn gallu ei chael hi'n anodd iawn i ddal i fyny.
Yn ôl yr elusen mae tua hanner y plant yn dal ar ôl eu cyfoedion erbyn cyrraedd 14 oed, ac mae'r ffigyrau diweddara'n dangos fod y bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng y disgyblion tlotaf a'u cyfoedion yn tyfu erbyn iddyn nhw gyrraedd 16 oed, ac mae'r cyfan yn dechrau o oedran pan mae'r sgiliau sylfaenol yn cael eu dysgu.
Yn ôl Achub y Plant mae bron un plentyn ym mhob tri yn byw mewn tlodi yng Nghymru.
Dywedodd Bethan Jenkins AC, llefarydd Plaid Cymru ar faterion plant a phobl ifanc, fod "methiant i ddatrys y broblem neu atal ei effeithiau gwaethaf wedi cael effaith ddifrifol ar gydraddoldeb plentyndod a lledaenu'r bwlch cyrhaeddiad".
Ychwanegodd yr AC Ceidwadol, Darren Millar: "Mae'r diffyg diwygio effeithiol yn ein system addysg, ynghyd â methu â chodi ein cymunedau mwyaf anobeithiol allan o dlodi, wedi creu cae chwarae anwastad lle mae gormod o blant yn cael eu gadael ar ôl, ac felly yn methu cyflawni eu llawn potensial."
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan eu bod am leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant sy'n byw mewn tlodi a'u cyfoedion - ond dyw hynny ddim wedi digwydd yn ôl Achub y Plant, sy'n galw yn ei hadroddiad ar y llywodraeth i weithredu ar frys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2013