Plaid yn gwadu bod cwynion am Neil McEvoy wedi'u cydlynu
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi gwadu honiadau bod lobïwyr gwleidyddol wedi cydlynu cwynion i'r blaid yn erbyn Neil McEvoy.
Mewn cynhadledd newyddion yn y Senedd bore Gwener, fe honnodd Mr McEvoy bod cwmni ymgynghorol Deryn wedi "trefnu" nifer o gwynion am ei ymddygiad.
Mae ffynhonnell o fewn Plaid Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru "nad ydy Neil McEvoy wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth bod y cwynion wedu eu cydlynu".
Dywedodd Deryn bod y gan y cwmni "record gadarn ar ymgyrchu i daclo aflonyddu a cham-drin merched" ond bod "mwy i'w wneud yma yng Nghymru".
Diarddel McEvoy
Fe gafodd Mr McEvoy ei ddiarddel yn barhaol o grŵp y blaid ym Mae Caerdydd yn gynharach yr wythnos yma wedi i'r ymddiriedaeth rhyngddo ac ACau eraill y blaid dorri i lawr.
Fe gafodd ymchwiliad mewnol ei gyhoeddi fis Mawrth y llynedd wedi i gyhuddiadau ymddangos yn y cyfryngau cymdeithasol yn erbyn Mr McEvoy.
Fis diwethaf fe gyfeiriodd y blaid rhai o'r cwynion at Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad.
Fe lwyddodd Mr McEvoy i orfodi Plaid Cymru i ryddhau manylion rhai o'r cwynion amdano cyn i ymchwiliad swyddogol gael ei lawnsio dan gais 'mynediad i wybodaeth'.
Yn ystod y gynhadledd newyddion fe ddatgelodd yr AC dros Ganol De Cymru bod dau o gyfarwyddwyr Deryn wedi gwneud cwynion am ei ymddygiad, ac roedd yna gwynion pellach gan eraill oedd yn gweithio i'r cwmni.
Dywedodd ei fod eisiau "taflu goleuni ar ddyfroedd brwnt gwleidyddiaeth Bae Caerdydd ac rwy'n amlygu sut y mae rhai pobl yn gweithredu".
Ychwanegodd ei fod yn disgwyl derbyn rhagor o wybodaeth gan Blaid Cymru ynglŷn â chwynion eraill amdano erbyn dydd Llun.
Yn ôl ffynhonnell o fewn Plaid Cymru mae Mr McEvoy "wedi esgeuluso i grybwyll y ffaith bod cwynion eraill amdano ar ben y rhai sydd wedi'u cyfeirio at y Comisiynydd Safonau".
Hefyd yn y gynhadledd newydd fe gododd Mr McEvoy faterion yn ymwneud â Chadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones.
Dywedodd: "Bydd y cyhoedd ac aelodau'r blaid yn nodi fod cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred, wedi gofyn am dystiolaeth gan Nerys Evans i gyfiawnhau yr honiad a wnaeth ar Twitter o fwlio a bygythion.
"Dydw i ddim yn ystyried hyn i fod yn weithred niwtral."
Mewn ymateb i sylwadau Mr McEvoy, dywedodd Mr Jones: "Heb fynd i fanylion, rwy'n gwadu'r datganiad yna. Rydw i wastad yn ceisio bod yn niwtral ac yn deg i bob aelod.
"Wnes i ymdrechu i wneud hynny drwy'r broses yma - proses eithaf arteithiol ac anodd."
'Mwy i'w wneud'
Dywedodd cadeirydd Deryn, Huw Roberts mewn datganiad: "Rydyn ni'n falch iawn o'n gwaith a'r tîm rydyn ni wedi ei adeiladu. Mae gyda ni record gadarn ar ymgyrchu i daclo aflonyddu a cham-drin merched, yn enwedig o fewn bywyd cyhoeddus.
"Mae heddiw'n dangos bod mwy i'w wneud yma yng Nghymru, a nawr gall fod yn anoddach i ferched fod yn hyderus wrth godi materion o'r fath.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld pa gamau fydd Leanne Wood yn eu cymryd i sicrhau bod ffordd newydd o wneud pethau, a lleihau lefel y gamdriniaeth gan aelodau'r blaid."