Cais i adeiladu sied ar gyfer 32,000 o ieir wedi'i wrthod
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer adeiladu sied ar gyfer 32,000 ieir yn Sir Gaerfyrddin wedi'i wrthod gan y cyngor sir.
Roedd cynlluniau wedi'u cyflwyno ar gyfer yr uned ym Mhentrefelin ger Llandeilo, ond yn dilyn gwrthwynebiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fe wrthodwyd y cais.
Roedd CNC yn pryderu am yr effaith posib y byddai nwy amonia a nitrogen yn ei gael ar safle Ystâd Parc Dinefwr, sy'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Roedd y cyngor cymuned lleol yn Llangathen hefyd yn gwrthwynebu'r cais ar sail pryderon diogelwch ffyrdd.
'Risg uchel'
Ffermwr lleol, Terry Davies, oedd wedi cyflwyno'r cais gwreiddiol i gynhyrchu wyau maes ar y tir yng Nglanmyddyfi.
Mae adroddiad sy'n esbonio'r gwrthwynebiad yn dweud mai effaith amgylcheddol sydd y tu ôl i benderfyniad y cyngor.
Dywedodd: "Gan fod Stad Dinefwr yn cael ei adnabod fel yr ail safle pwysicaf yng Nghymru a Lloegr o ran y gennau (lichen) prin, rydym yn ystyried y risg yn uchel i'r nodweddion arbennig ar sydd ar y safle."
Roedd y cyngor cymuned lleol - Cyngor Cymuned Llangathen - hefyd wedi gwrthwynebu'r datblygiad am resymau diogelwch y ffyrdd.