Finsbury Park: Dyn o Gaerdydd 'eisiau lladd Mwslimiaid'
- Cyhoeddwyd
Clywodd llys fod dyn o Gaerdydd sydd wedi ei gyhuddo o gyflawni ymosodiad yn Finsbury Park wedi gweithredu oherwydd ei ddicter gyda'r cynnydd mewn ymosodiadau terfysgol.
Yn ôl yr erlyniad yn Llys y Goron Woolwich roedd Darren Osborne, 48, hefyd wedi ei gynddeiriogi gan achosion o gam-drin plant yn Rotherham.
Honnir bod Mr Osborne wedi taro ei fan yn erbyn Makram Ali, 51, a naw o bobl eraill ger dau fosg yng ngogledd Llundain toc wedi 00:15 ar 19 Mehefin.
Roedd yr ardal yn brysur iawn gydag addolwyr yn mynychu gweddïau Ramadan.
Mae Mr Osborne, o ardal Pentwyn, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddio Mr Ali ac o geisio llofruddio eraill.
'Cwympo i'r llawr'
Dywedodd Jonathan Rees QC ar ran yr erlyniad "fod y dystiolaeth yn dangos fod y diffynnydd yn ceisio lladd gymaint o bobl a phosib".
"Yn y diwedd fe laddodd un person, Makram Ali, 51, ac fe wnaeth anafu nifer o bobl eraill, rhai yn ddifrifol."
Ychwanegodd: "Mae ceisio lladd rhywun oherwydd eu crefydd yn rhywbeth ofnadwy.
"Beth sy'n gwneud hyn yn fwy ofnadwy fyth yw bod y grŵp wnaeth o daro mewn iddynt yn ceisio helpu Makram Ali, oedd wedi cwympo i'r llawr wrth gerdded ar Heol Seven Sisters ychydig o funudau cyn yr ymosodiad."
Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi gyrru i Lundain y diwrnod blaenorol yn bwriadu gyrru ei fan yn erbyn pobl oedd yn cymryd rhan mewn gorymdaith diwrnod Al Quds, ond ar ôl penderfynu nad oedd hyn yn ymarferol dechreuodd edrych am darged gwahanol.
'Gweithred derfysgol'
Dywedodd Mr Rees bod nodyn ysgrifenedig wedi ei ganfod yn fan Mr Osborne o fewn oriau i'r ymosodiad, llythyr oedd yn cwyno am derfysgwyr ac am achosion o ecsploetio plant yn Rotherham.
Roedd y nodyn hefyd yn feirniadol o Arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, a Maer Llundain, Sadiq Khan.
"Gyda hyn fel cefndir, fe waeth y diffynnydd benderfynu gweithredu," meddai Mr Rees.
"Fe benderfynodd wneud datganiad cyhoeddus drwy ladd Mwslimiaid, gan wybod y byddai ei nodyn yn cael ei ddarganfod gan yr awdurdodau."
Dywedodd ei fod o'r farn bod y "nodyn a'r sylwadau a wnaeth ar ôl ei ddal yn dangos fod y weithred yma o drais eithafol yn weithred derfysgol".
"Dyma'r cymhelliad y tu cefn i'r weithred, i geisio dylanwadu ar lywodraeth ac i ddychryn y gymuned Fwslimaidd, a gwneud hyn er mwyn hybu daliadau ac achos gwleidyddol, crefyddol, ideolegol neu hiliol."
Yn ystod diwrnod cyntaf yr achos, fe wnaeth y rheithgor weld fideo o'r digwyddiad lle wnaeth fan wen fynd ar ben pafin a tharo yn erbyn grŵp o bobl oedd yn rhoi cymorth i Mr Makram.
Roedd y fideo yn dangos pobl yn taro'r diffynnydd a ddywedodd: "Rwyf wedi gwneud fy ngwaith fe allwch fy lladd nawr."
Clywodd y llys fod y diffynnydd yn gwenu'n gyson ar ôl cael ei ddal gan yr heddlu.
Mae'r achos yn parhau.