Cwmni yswiriant Admiral yn gwadu 'hiliaeth'

  • Cyhoeddwyd
admiral

Mae cwmni yswiriant Admiral, sydd â'i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi cysylltu â chwsmeriaid i wadu adroddiad papur newydd, oedd, yn eu tyb nhw, yn awgrymu fod y cwmni'n hiliol.

Honnodd ymchwiliad gan The Sun fod modurwyr o'r enw "Mohammed" yn talu mwy i yswirio'u ceir na phobl o'r enw "John".

Yn ôl llefarydd ar ran Admiral, roedd y stori'n "anghywir".

"Dydyn ni ddim, a dydyn ni erioed wedi defnyddio enw cwsmer nag unrhyw wybodaeth arall er mwyn pennu pris ar sail hil."

Dywedodd llefarydd ar ran The Sun eu bod yn cadw at gasgliadau eu hymchwiliad.

Honnodd y papur newydd eu bod wedi defnyddio'r union yr un manylion ar wahan i enw, a chael 60 amcanbris drwy wefan gymharu Go Compare, yn ogystal â chael amcanbrisoedd uniongyrchol gan gwmnïau yswiriant a gwefannau cymharu eraill.

Ond dywedodd llefarydd ar ran grŵp Admiral: "Doedd yr amcanbrisoedd yswiriant yn yr erthygl newyddion ddim yn cymharu ceisiadau tebyg.

"Rydym yn trin yr honiadau hyn o ddifrif a byddwn yn ymgynghori â'n cyfreithwyr."

E-bost

Mewn e-bost at gwsmeriaid, dywedodd Prif Weithredwr Yswiriant Car grŵp Admiral, Cristina Nestares: "Efallai eich bod wedi gweld stori yn y newyddion sy'n honni ein bod ni'n defnyddio enwau cwsmeriaid er mwyn bennu pris yswiriant ar sail hil.

"Dydy hyn 100% ddim yn wir, dydyn ni ddim, a dydyn ni erioed wedi defnyddio'r wybodaeth hon i ddarparu pris i'n cwmseriaid.

"Rydym yn ymddiheuro os yw'r stori wedi achosi unrhyw bryder i chi.

"Wrth gynnig prisiau, rydym yn defnyddio trefn brisio gymhleth ac yn pennu pris ar sail nifer o gostau amrywiol a ffynonellau data gwahanol.

"Mae'r newyddiadurwyr wedi camddeall ein trefn brisio a dydy'r amcanbrisoedd yswiriant yn y stori ddim yn cymharu ceisiadau tebyg."

Disgrifiad o’r llun,

Yng Nghaerdydd mae pencadlys cwmni Admiral

Roedd Admiral ymysg sawl cwmni a gafodd eu cynnwys yn yr erthygl, gan gynnwys Bell, Elephant and Diamond ac M&S.

Honnodd y papur newydd fod y cwmnïau "wastad yn rhoi amcanbris uwch i yrrwr o'r enw Mohammed. Roedd y gwahaniaeth yn aml tua £100".

Dywedodd llefarydd ar ran M&S nad ydyn nhw'n gwahaniaethu ar sail enw na hil cwsmer "dan unrhyw amgylchiadau" ac nad yw'n cael "unrhyw effaith" ar bris eu hyswiriant.

Ychwanegodd y llefarydd bod y cwmni wedi rhoi amcanbrisiau hafal "i bob cais lle roedd y manylion yr union yr un fath" a phan oedd gwahaniaeth, "nid oedd hyn o ganlyniad i enw'r cwsmer".

'Dim dylanwad'

Dywedodd llefarydd ar ran GoCompare nad oedd ganddyn nhw "unrhyw ddylanwad dros y modd y mae gwybodaeth cwsmeriaid yn cael ei ddadansoddi gan yswirwyr er mwyn cyfrifo cost yswiriant.

"Rydym yn casglu'r wybodaeth gan ein cwsmeriaid ac yna'n cyflwyno'r prisiau gan yswirwyr sy'n fodlon darparu amcanbris i gwsmeriaid."

Admiral yw'r unig gwmni FTSE 100 sydd â'i bencadlys yng Nghymru, ac mae'n cyflogi dros 8,000 o staff ar draws y byd.

Ar wefan y cwmni, mae Admiral yn dweud eu bod yn delio ag 11% o'r farchnad yswiriant car yn y DU.