Y rhedwraig sydd ddim yn ofni 'chydig o berygl
- Cyhoeddwyd
Mae hi eisioes wedi gwneud ei marc yn y byd athletau ond rŵan mae Mica Moore o Gasnewydd yn gobeithio am lwyddiant mewn camp wahanol iawn yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.
Wedi iddi hi gynrychioli Cymru yn y rasus 100m a 200m yn Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 bydd Mica yn cynrychioli Prydain yn y bobsleigh yn PyeongChang yn Ne Corea.
Bu Mica Moore yn sôn wrth Cymru Fwy am y cyfnod cyffrous sydd o'i blaen.
Hwn ydy'r ail dymor i mi gystadlu yn y bobsleigh. Roedd fy nhymor cyntaf yn un llwyddiannus gan i mi a fy mhartner, Mica McNeill, ennill y Bencampwriaeth Ieuenctid.
Cyn i mi ddechrau efo bobsleigh ro'n i'n rhedeg yn y rasus 100m a 200m. Fe gyrhaeddodd Cymru ffeinal y ras gyfnewid 100m yn Glasgow yn 2014 ac fe ddaethon ni yn 7fed a chael record genedlaethol. Roedden ni'n un o'r timau ieuengaf yno ac rwy'n falch o'r hyn wnaethon ni.
Newid byd
Nes i benderfynu gystadlu yn y bobsleigh gan fy mod i eisiau sialens newydd. Roedd gen i ffrind yn y tîm bobsleigh a awgrymodd mod i'n rhoi cynnig arni, ac fe aeth y treialon yn dda.
Do'n i ddim wedi clywed llawer am y gamp, ond ro'n i'n deall bod sprinters yn gallu addasu i'r gamp yn dda - mae Joel Fearon sydd yn y tîm yn enghraifft arall. Mae'r sgiliau o ddechrau ras 100m ar y trac yn debyg i ddechrau rhediad yn y bobsleigh, gyda'r pŵer a chyflymder yn hollbwysig.
Mae Mica fy mhartner yn gyrru, ac mae hi fel y rhan fwyaf o'r gyrwyr yn gryf iawn. Mae hi'n dipyn cryfach na fi yn y gampfa, ond fy rôl i yn y cefn yw cynnig cyflymder.
Mae hi'n neidio fewn i'r bobsleigh ar ôl tua 20-30 metr o redeg a dwi dal i wthio am dipyn cyn neidio i mewn.
Gafael yn dynn!
Dwi'n dal 'mlaen yn dynn a chau fy llygaid a gadael i Mica lywio. Does dim pwynt agor fy llygaid achos does dim llawer i'w weld. Mae 'na dwll bach ar waelod y slej wrth y brecs lle allai weld y rhew, ond dydi hi ddim yn olygfa braf ar y cyflymder yna.
Yna pan 'da ni'n croesi'r llinell derfyn mae Mica'n gweiddi "brêc" a dwi'n tynnu ar y brêcs i'n stopio ni.
Ro'n i'n nerfus yn rhedeg y 200m ond dwi'n credu ei fod e'n saff ac mae gen i hyder yng ngallu Mica.
Fe gawson ni ddamwain ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Altenberg ar ddechrau'r mis, ond mae pethau fel yna yn gallu digwydd a dwi'n trio dod drosto mor gyflym â phosib.
Er mwyn ariannu'r trip i Dde Corea roedd yn rhaid i ni sefydlu tudalen ar wefan GoFundMe oherwydd toriadau i gyllideb y tîm bobsleigh merched. Fe gyrhaeddon ni'r targed o £30,000 o fewn 6 diwrnod - roedd hynny'n anhygoel! Mae hynny wedi rhoi cyfle i ni baratoi yn drylwyr a chyrraedd y sefyllfa 'dyn ni ynddi nawr.
Gobeithion am y gystadleuaeth
Dwi 'di ymweld â'r safleoedd a'r cyfleusterau sydd yn Ne Corea yn barod ac mae'r adnoddau yn arbennig iawn.
Dwi'n meddwl byddai cyrraedd yr wyth uchaf neu hyd yn oed y chwech uchaf yn dipyn o gamp, o ystyried bod llawer o'n gwrthwynebwyr ag adnoddau gwych drwy'r flwyddyn ac yn fwy profiadol. Mae gwledydd fel Yr Almaen, Yr Unol Daleithiau a Canada yn gryf iawn - ond pwy a ŵyr ar y diwrnod.
Mae rhan ohona i'n edrych 'mlaen i fynd yno fel cefnogwr hefyd - edrych 'mlaen i weld y speed skating oherwydd fy nghefndir rasio, a dwi'n edrych 'mlaen i rannu profiadau gyda fy nheulu a fy nghariad.
Ar ôl y Gemau Olympaidd 'dwi am gymryd rhyw bythefnos i ffwrdd ac yna mynd nôl at yr athletau a gweld be' alla i wneud dros yr haf.
Fydda i ddim yn y Gemau Gymanwlad eleni, ond dwi'n anelu i fod yng Ngemau Birmingham yn 2022.