Achos mosg: Bwriad i achosi 'cymaint o ddifrod â phosib'

  • Cyhoeddwyd
Darren Osborne
Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren Osborne yn gwadu llofruddio Makram Ali, 51 oed, a cheisio llofruddio Mwslimiaid eraill

Mae dyn o Gaerdydd sydd wedi ei gyhuddo o ymosod ar Fwslimiaid ger mosg yn Llundain wedi dweud wrth y llys mai ei fwriad oedd i "achosi cymaint o ddifrod â phosib".

Ar wythfed diwrnod yr achos yn Llys y Goron Woolwich, dywedodd Darren Osborne ei fod wedi cynllwynio gyda dau ddyn o'r enw Terry a Dave ddiwrnod cyn y digwyddiad i "dyrru drwy gymaint o bobl ag oedd modd".

Ar ôl i'r cynllwyn hwnnw fethu, fe wnaeth y tri dyn drefnu i gwrdd yn ardal Finsbury Park am ddiod, meddai.

Fe gytunodd Mr Osborne fod y dyn oedd yn gyrru'r fan cyn yr ymosodiad yn edrych yn debyg iddo ar luniau CCTV.

'Fel Dynamo'

Ond mae'n honni, wrth i'r fan fynd lawr ffordd Seven Sisters, o dan y bont rheilffordd, fod Dave wedi neidio fewn i'r fan a chuddio, cyn newid lle gyda Mr Osborne.

Dywedodd nad oedd modd gweld ar gamerâu CCTV yr union eiliad wnaeth Dave fynd i mewn i'r cerbyd.

"Anffawd", meddai, oedd y ffaith nad oedd y camerâu wedi dal hynny.

Mae'r llys eisoes wedi clywed fod camerâu wedi dal y siwrnai'n llawn, ar wahân i bedair eiliad, pan oedd y fan yn symud ar gyflymder lawr Ffordd Isledon.

Gofynnodd Jonathan Rees QC i Mr Osborne egluro pam mai ef oedd yr unig berson i ddod allan o'r fan yn dilyn y gwrthdrawiad.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Llundain
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau yn dangos Darren Osborne yng nghefn fan heddlu ar ôl cael ei arestio

Dywedodd Mr Rees: "Efallai bod Dave yn berson digri', ond tydi o ddim yn gonsuriwr nac ydi?"

"Mae fel Dynamo, yn rhith. Yn lledrithiwr, efallai ei fod yn gallu gwneud i'w hun ddiflannu."

"Dwi ddim yn gwybod," oedd ateb Mr Osborne.

Fe wnaeth Mr Rees herio Mr Osborne gan ddweud bod yr hyn a ddywedodd ddim wedi digwydd ac yn "absẃrd".

'Blin'

Gofynnodd Mr Rees oedd o wedi synnu fod Dave wedi gyrru'r fan at grŵp o Fwslimiaid.

Ateb Mr Osborne oedd ei fod yn "flin iawn gyda'r hyn sy'n digwydd yn ein gwlad".

"Ychydig fel chi felly?" meddai Mr Rees.

Cytunodd Darren Osborne: "Ychydig fel fi."

Dywedodd Mr Osborne ei fod yn flin bod merched "gwyn" yn cael eu treisio gan Fwslimiaid a'u bod nhw i gyd yn "darllen o'r un llyfr".

"Dyna pam mod i'n flin," ychwanegodd.

'Ceisio twyllo'

Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi cael triniaeth ar gyfer iselder a'i fod wedi gweld seiciatrydd i'w asesu cyn yr achos.

Yn ei araith gloi, dywedodd Mr Rees wrth aelodau'r rheithgor na ddylen nhw adael i Mr Osborne "geisio eich twyllo".

Ychwanegodd fod Mr Osborne wedi'i ysgogi gan "gasineb tuag at Fwslimiaid, sydd wedi gwreiddio o wylio deunydd ar deledu ac ar-lein.

"Rydym yn awgrymu bod y diffynnydd wedi creu amddiffyniad allan o nunlle," meddai.

Mae Darren Osborne yn gwadu llofruddio Makram Ali a cheisio llofruddio eraill, ac mae'r achos yn parhau.