Huw Llywelyn: Pryder am ddyfodol darlledu rygbi'n Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Huw Llywelyn Davies

Mae un o sylwebyddion rygbi amlycaf Cymru wedi mynegi pryder am ddyfodol darlledu gemau yn y Gymraeg.

Yn ôl Huw Llywelyn Davies mae'r opsiwn i weld gêm yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg yn rhwystro'r Gymraeg rhag cyrraedd "llefydd na fydde hi'n mynd fel arall".

Mae hefyd yn dweud bod dyfodiad y 'botwm coch' - yr opsiwn i gael sylwebaeth yn Saesneg - ar S4C yn gam i'r cyfeiriad anghywir.

Bydd pob un o gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn fyw ar S4C ac yn Saesneg ar y BBC.

'Ofni' am y dyfodol

"Mae hwn yn rhywbeth sy'n poeni fi," meddai Mr Davies, fu'n sylwebu yn y ddwy iaith am dros 30 mlynedd cyn ymddeol o sylwebu ar gemau rygbi rhyngwladol yn 2014.

"Am flynyddoedd lawer oedd 'na un gêm bob penwythnos yn cael ei darlledu yn y Gymraeg yn unig.

"Achos bod chwaraeon mor boblogaidd chi'n teimlo bod rygbi wedi mynd â'r Gymraeg ar y sgrin fach i lefydd na fydde hi wedi mynd.

"Mae tuedd i feddwl mai un criw o Gymry pybyr fyddai'n gwrando ar y gêm ar S4C.

"Ond pan chi'n cael gemau rygbi yn y Gymraeg fydde hi'n mynd i glybiau rygbi ac aelwydydd na fyddai'n clywed yr iaith yn naturiol."

Disgrifiad,

'Y bas wrthol': Huw Llywelyn Davies yn adrodd hanes bathu'r term

"Y boddhad mwya' am sylwebu dros gymaint o gyfnod yw clywed y chwaraewyr yn defnyddio'r termau yn naturiol," meddai Mr Davies wrth Cymru Fyw.

"Os oedd y chwaraewyr yn [gwrando ar sylwebaeth Gymraeg] yn fechgyn ifanc roedd y termau yn dod yn naturiol i'w ieithwedd nhw.

"Nawr mae'r botwm coch wrth gwrs a dwi'n ofni braidd falle yn y dyfodol na fydd ein prif chwaraewyr ni'r un mor gartrefol gyda'r termau Cymraeg na'r to presennol a'r cenedlaethau sydd wedi mynd."

'Gwasanaeth sy'n cael ei werthfawrogi'

Yr wythnos hon fe gyhoeddodd S4C, dolen allanol eu bod nhw'n darlledu un o ddwy gêm bêl-droed Cymru yng Nghwpan China yn fyw, gyda'r opsiwn am sylwebaeth Saesneg.

Mae'r sianel hefyd yn cynnig sylwebaeth Saesneg ar nifer o gemau rygbi a phêl-droed domestig drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C eu bod yn gwneud hynny er mwyn "ateb galw'r nifer fawr o wylwyr di-Gymraeg sy'n mwynhau'r gemau rygbi a phêl-droed byw" ac fod yn wasanaeth sy'n cael ei "werthfawrogi'n fawr".

"Rydym yn cynnig y gwasanaeth sylwebaeth Saesneg ar chwaraeon byw gymaint â phosibl pan mae hawliau'n caniatáu a phan nad yw sianel arall yn cynnig darlledu byw cefn wrth gefn neu ar yr un pryd â S4C," meddai.

Y Clwb Rygbi Rhyngwladol: Cymru v Yr Alban, dydd Sadwrn, 3 Chwefror ar S4C, 13:30. Sylwebaeth lawn ar Radio Cymru am 13:45.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol