Ymgyrchwyr yn 'obeithiol' am newid rheol microsglodyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r pwyllgor deisebau yn bwriadu cysylltu gyda rhai cynghorau i'w holi ynglŷn â'u polisïau microsglodyn
Mae ymgyrchwyr anifeiliaid yn "obeithiol" ynglŷn â chais i'w gwneud hi'n orfodol i anifeiliaid sy'n cael eu darganfod gan weithwyr cyngor gael eu harchwilio i weld os oes ganddynt ficrosglodyn.
Yn ôl deiseb i'r Cynulliad dylai hi fod yn orfodol bod pob anifail, byw neu farw, yn cael ei archwilio am ficrosglodyn.
Bydd y pwyllgor deisebau nawr yn ysgrifennu at y chwe chyngor sydd ddim yn archwilio anifeiliaid i holi am eu polisïau.
Mae'r grŵp ymgyrchu Cats Matter yn "obeithiol" y bydd y rheolau'n newid.
Dim ond cynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Caerdydd, Casnewydd, Blaenau Gwent a Chastell Nedd Port Talbot sydd ddim yn sganio anifeiliaid yn arferol.
Mae'r gweddill yn gwneud pan maen nhw'n "tybio bod yr anifail mewn cyflwr i wneud".

Mae'r ddeiseb yn galw ar i bob anifail domestig gael ei gynnwys yn y rheol, a bod eu perchnogion yn cael gwybod pan mae eu hanifeiliaid wedi eu darganfod.
Dywedodd llefarydd Cats Matter: "Nid dyma yw ein dymuniad. Fodd bynnag, rydyn ni'n gweld yr agweddau cadarnhaol ac mae'n llawer gwell na jyst cau'r ddeiseb.
"Un o'r prif resymau roedden ni eisiau newid y gyfraith oedd am fod cymaint o gathod a chŵn yn dal i gael eu methu gan gynghorau sydd gyda'r sganwyr."
Mae RSPCA Cymru hefyd wedi cefnogi'r alwad i'w gwneud hi'n orfodol i adnabod anifeiliaid sy'n cael eu lladd ar briffyrdd.

Ymhlith yr anifeiliaid mae'n rhaid i yrwyr ddweud wrth yr heddlu maent wedi taro mae defaid
Mae'r pwyllgor deisebau wedi dweud y bydd yn ystyried polisïau'r awdurdodau "cyn gwneud penderfyniad pellach ynghylch y ddeiseb".
Ar hyn o bryd mae'n rhaid i yrwyr ddweud wrth yr heddlu os ydyn nhw'n taro ci, ceffyl, mochyn, dafad, buwch, asyn neu ful.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, gan nad oes rheidrwydd cyfreithiol ar berchnogion i osod microsglodyn ar eu cathod, a bod "pwysau anferth" ar eu cyllideb, dyw swyddogion ddim yn sganio anifeiliaid marw.
Dywedodd Cyngor Casnewydd y byddai'n ymateb i ddeiseb y pwyllgor pan fydd y pwyllgor yn cysylltu gyda'r awdurdod.
Ni wnaeth Ynys Môn, Caerdydd, Blaenau Gwent na Chastell Nedd Port Talbot ymateb i gais BBC Cymru am sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2017