Y Gynghrair Genedlaethol: Guiseley 0-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi codi i frig y Gynghrair Genedlaethol ar ôl curo Guiseley oddi cartref.
Yr ymwelwyr wnaeth sgorio gyntaf wedi 16 munud diolch i 13eg gôl Chris Holroyd y tymor yma.
Daeth Holroyd yn agos at sgorio eto wedi ergyd gan James Jennings ar draws y cwrt cosbi, ac roedd angen arbediad arbennig gan y golwr Luke Coddington.
Ond fe ddaeth gôl arall i sicrhau'r triphwynt wedi 72 munud gyda Shaun Pearson yn penio'r bêl i'r rhwyd o gic gornel.
Dywedodd rheolwr Wrecsam Dean Keates bod ei chwaraewyr wedi mynd ati i fod yn "broffesiynol"
"Roeddan ni'n arbennig yn yr 20 munud agoriadol ac fe wnaethon ni gario ymlaen.