Llywodraeth ond am 'warantu chwarter cost' cylchffordd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud am y tro cyntaf y bydden nhw ond wedi bod yn fodlon gwarantu chwarter cost Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy.
Cafodd y cynllun terfynol ar gyfer y trac rasio, oedd yn gofyn i weinidogion warantu tua hanner cost y prosiect £433m, ei wrthod haf diwethaf.
Dywedodd prif was sifil Llywodraeth Cymru, yr ysgrifennydd parhaol Shan Morgan, wrth ACau'r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus fod hynny'n uwch na'r lefel fyddai wedi bod yn dderbyniol.
Roedd datblygwyr y trac rasio wedi dweud y byddai'n creu hyd at 6,000 o swyddi ym Mlaenau Gwent.
'Newid strwythur radical'
Dywedodd Shan Morgan y byddai'r cynllun ond wedi gallu cael gobaith o fwrw yn ei flaen petai'r swm yr oedden nhw'n gofyn i Lywodraeth Cymru warantu wedi cael ei haneru.
"Fe wnaeth swyddogion ddod i'r casgliad nad oedd rhywbeth fyddai wedi golygu newid radical iawn i strwythur ariannol y cynllun yn bosib," meddai.
Yn lle'r cylchffordd, mae gan y llywodraeth nawr gynlluniau ar y gweill ar gyfer parc busnes modurol yn yr ardal gwerth £100m.
Roedd Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, oedd yn gyfrifol am y datblygiad, wedi gofyn i'r Llywodraeth warantu 80% o'r cost yn wreiddiol, cyn gostwng hynny i 50%.
Byddai'r trac rasio wedi cynnal cymal Prydeinig y MotoGP am o leiaf bum mlynedd, yn ogystal â rasys BMX a beicio mynydd, a chyngherddau a chanolfan sgïo dan do.
Byddai'r gwarant wedi golygu fod Llywodraeth Cymru'n derbyn £99m dros gyfnod o 33 mlynedd unwaith yr oedd wedi agor, os oedden nhw'n gwarantu cost y cynllun.
Ond pe bai'r cynllun wedi methu byddai wedi golygu cost o £210m i'r pwrs cyhoeddus, gydag Aviva yn cadw'r gylchffordd a'r isadeiledd.
'Symud y pyst'
Dywedodd Shan Morgan fod asesiadau'r llywodraeth hefyd wedi canfod bod nifer y swyddi oedd i fod i gael eu creu yn rhan gyntaf y cynllun yn "ansicr a dweud y lleiaf".
Cafodd hynny ei feirniadu gan AC UKIP, Neil Hamilton, a ddywedodd fod y llywodraeth yn "symud y pyst" ar y funud olaf a bod hynny'n creu trafferthion i'r cwmni.
Mynnodd Ms Morgan fodd bynnag fod datblygwyr wedi cael digon o amser i lunio achos busnes dros y gylchffordd.
Ychwanegodd fod cabinet Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y cynllun am sawl rheswm, gan gynnwys y ffaith y gallai'r datblygwyr fod wedi cerdded i ffwrdd o elfen parc busnes foduro'r cynllun er mai dyna oedd i fod i greu'r rhan fwyaf o'r swyddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2017