Campws Mauritius: Colledion o dros £1m

  • Cyhoeddwyd
Campws Prifysgol Aberystwyth ym MauritiusFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Cyn-gampws Prifysgol Aberystwyth ym Mauritius

Fe wnaeth campws ym Mauritius, gafodd ei sefydlu gan brifysgol Aberystwyth, golled o dros £1m mewn dwy flynedd yn ôl ffigyrau sydd newydd eu rhyddhau.

Yn ôl cyfrifon y brifysgol fe wnaeth y campws yng Nghefnfor India golled o £642,000 yn 2016/17 a £375,000 yn y flwyddyn flaenorol.

Mae'r brifysgol eisoes wedi cyhoeddi y bydd y campws ym Mauritius yn cau, ac na fydd yn derbyn myfyrwyr newydd ar ôl mis Mawrth.

Mae'r brifysgol wedi bod yn edrych i dorri ar ei gostau, ac ym mis Hydref cyhoeddodd llefarydd y byddai 11 o swyddi academaidd yn diflannu wrth i'r sefydliad chwilio am arbedion o £6m.

Yn y gorffennol mae'r brifysgol wedi amddiffyn ei benderfyniad gwreiddiol i sefydlu campws dramor.

Ond cafodd y syniad ei feirniadu ar y pryder gan AC Canolbarth a Gorllewin Cymru Simon Thomas fel 'cam gwag.'

Mewn datganiad dydd Llun dywedodd y brifysgol: "Yn dilyn adolygiad o'i strategaeth ryngwladol, mae Prifysgol Aberystwyth wedi penderfynu canolbwyntio ei gweithgareddau rhyngwladol ar ddatblygu partneriaethau gyda sefydliadau tramor allweddol.

"Ni fydd y Brifysgol o'r herwydd yn recriwtio rhagor o fyfyrwyr i'w rhaglenni yn y gyfraith, busnes a chyfrifiadureg ar gampws cangen Mauritius.

"Mae ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i safonau addysgu uchel a phrofiad myfyrwyr rhagorol yn parhau yn ddigyfnewid a bydd y Brifysgol yn parhau i addysgu ei holl fyfyrwyr cofrestredig ym Mauritius hyd nes iddynt gwblhau eu hastudiaethau ar gyfer gradd Prifysgol Aberystwyth yn llwyddiannus.

"Edrychwn ymlaen at gynnal ein seremonïau graddio cyntaf ym Mauritius ym mis Gorffennaf 2018."