Galw am 'dynnu'r plwg' ar gampws prifysgol ym Mauritius
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Brifysgol Aberystwyth "dynnu'r plwg" ar ei champws ym Mauritius os nad yw'n denu mwy o fyfyrwyr, yn ôl Aelod Cynulliad.
Dywedodd Simon Thomas bod nifer o bobl o'r farn mai "cam gwag" oedd mynd i'r ynys yng nghefnfor India yn y lle cyntaf.
Mae ffigyrau ddaeth i law Newyddion 9 yn dangos mai 106 o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru i astudio ym Mauritius yn yr ail flwyddyn, er bod lle i 2,000.
Dywedodd Prifysgol Aberystwyth bod y campws yn "fuddsoddiad tymor hir", gan ychwanegu eu bod wedi ymrwymo i "ddileu colledion ym Mauritius".
'Cam gwag'
Cafodd y fenter ei disgrifio fel un "gwirion bost" y llynedd gan gyn is-ganghellor, ar ôl iddi ddod i'r amlwg mai 40 o fyfyrwyr wnaeth gofrestru i astudio yno yn y flwyddyn academaidd gyntaf.
Fe wnaeth y sefydliad golled o bron i £200,000 o'r fenter yn ystod y flwyddyn honno, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
"Yr argraffiadau cynta' yw bod y fenter yn sdryglo rywfaint ac yn cael trafferth cyflawni ei botensial fel oedd e'n cael ei ddisgrifio ar y pryd," meddai Mr Thomas, AC Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
"Wrth gwrs mi oedd nifer o bobl ar y pryd yn meddwl bod e'n gam gwag gan y brifysgol i fynd i Mauritius yn y lle cynta'.
"Pwrpas y cynllun does bosib oedd i ddenu arian newydd, ffres a fyddai wedyn yn cefnogi'r brifysgol yn Aberystwyth.
"Os nad yw hynny'n digwydd mae'n rhaid tynnu'n plwg ar y cynllun."
Mae prifysgolion Wolverhampton a Middlesex yn Lloegr hefyd wedi agor campysau dros y môr ym Mauritius.
Roedd tua 90 o fyfyrwyr wedi cofrestru i astudio yn y ddwy brifysgol yn ystod eu blwyddyn gyntaf ar yr ynys.
Ond yn 2015 fe gyhoeddodd Wolverhampton eu bod yn cau eu campws nhw, bedair blynedd ar ôl iddo agor.
'Buddsoddiad tymor hir'
Mae'n bosib i fyfyrwyr Prydeinig a rhyngwladol astudio ar gampws Prifysgol Aberystwyth ym Mauritius.
Mae'n cynnig nifer o gyrsiau gwahanol mewn busnes, cyfrifeg a'r gyfraith.
Dywedodd Prifysgol Aberystwyth: "Agorwyd ein campws cangen Mauritius yn 2015 fel buddsoddiad tymor hir gyda'r bwriad o gynnig profiad addysg Aberystwyth i fyfyrwyr o ddwyrain Affrica, yr is-gyfandir ac Asia, yn ogystal ag ynys Mauritius ei hun.
"Fel rhan o'n Cynllun Gweithredu Cynaliadwyedd, rydym wedi ymrwymo i ddileu colledion ym Mauritius."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2016