Blychau'n cau yn Isetholiad Alun a Glannau Dyfrdwy

  • Cyhoeddwyd
Cyfri

Mae'r blychau wedi cau yn yr isetholiad i gynrhychioli etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Daeth y sedd yn wag yn dilyn marwolaeth y cyn-weinidog Llafur, Carl Sargeant ym mis Tachwedd y llynedd.

Mae pum ymgeisydd yn sefyll ac yn cynrychioli Llafur, y Ceidwadwyr, y Blaid Werdd, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru.

Mae disgwyl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi yn oriau mân fore Mercher.

Mab Carl Sargeant, Jack Sargeant yw'r ymgeisydd Llafur, gyda Sarah Atherton ar ran y Ceidwadwyr, Duncan Rees i'r Blaid Werdd, Donna Lalek i'r Democratiaid Rhyddfrydol a Carrie Harper dros Blaid Cymru.

Yn yr Etholiad Cynulliad diwethaf yn 2016 roedd gan y blaid Lafur fwyafrif o 5,364 dros y Ceidwadwyr oedd yn ail a UKIP yn drydydd.