Tywydd garw'n cau ysgolion yn y gogledd ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi ail rybudd melyn am dywydd garw i gyd-fynd â'r un a gyhoeddwyd ddydd Llun sy'n dal mewn grym tan brynhawn Mawrth.
Mae'r ail rybudd yn dweud y bydd cawodydd o eirlaw, eira a chenllysg - rhai yn drwm - yn taro ardaloedd gorllewinol Cymru yn ystod y dydd.
Bydd yr ail rybudd mewn grym o 05:00 fore Mawrth tan 10:00 fore Mercher.
Fe ddywed y rhybudd fod disgwyl amharu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y dydd.
Hefyd bydd rhew yn ffurfio ar nifer o ffyrdd, llwybrau beicio a phafinau sydd heb eu trin, gyda mwy o risg o ddamweiniau.
Dywedodd y cyflwynydd tywydd Derek Brockway: "Fe fydd faint o eira sy'n disgyn yn amrywio, ond fe allai rhwng 1-3cm ddisgyn mewn mannau gyda hyd at 5cm ar dir uchel dros 200m."
Ysgolion ar gau
Erbyn 09:20 fore Mawrth roedd 19 ysgol wedi cyhoeddi na fydden nhw'n agor - wyth ar Ynys Môn, 10 yng Ngwynedd ac un yng Nghonwy:
Ynys Môn
Ysgol Gynradd y Graig, Llangefni;
Ysgol Gyfun Llangefni;
Ysgol Gynradd Bodorgan;
Ysgol Gynradd Niwbwrch;
Ysgol Gynradd Llangaffo;
Ysgol Gynradd Dwyran;
Ysgol Corn Hir, Llangefni;
Ysgol Esceifiog, Gaerwen.
Gwynedd
Ysgol Gyfun Botwnnog;
Ysgol Pont y Gof, Botwnnog;
Ysgol Gynradd Sarn Bach;
Ysgol Gynradd Edern;
Ysgol Yr Eifl, Trefor;
Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth;
Ysgol Crud y Werin, Aberdaron;
Ysgol Gynradd Rhosgadfan;
Ysgol Pendalar, Caernarfon;
Ysgol Gynradd Waunfawr.
Conwy
Ysgol Gynradd Betws-yn-Rhos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2018