Kyffin: Y dyn a'r darluniau
- Cyhoeddwyd
Ar 9 Mai, mae'n 100 mlynedd ers geni un o arlunwyr mwyaf adnabyddus Cymru, y diweddar Syr Kyffin Williams.
Mae'r arlunydd o Fôn yn enwog am ddarlunio pobl a thirwedd Cymru, ond sut ddyn oedd Kyffin? A beth yw ei ddylanwad ar ddiwylliant cyfoes y genedl?
Mae Peter Lord yn hanesydd arlunio sy'n arbenigo ym maes diwylliant gweledol Cymru...
Mae 'na ddwy elfen wahanol i'w nodi wrth drafod Kyffin, ac mae'n bwysig ein bod ni'n gwahaniaethu rhyngddyn nhw.
Mae yna ffenomen o'r enw Kyffin Williams, ac mae corff o waith celf - tirluniau a phortreadau. Mae'r berthynas rhwng y ddwy elfen yn un cymhleth.
I'r bobl sy'n prynu gwaith Kyffin, mae ei waith yn cynrychioli mwy 'na jyst ei gelf. Pan mae rhywun yn prynu darlun gan Kyffin Williams rwy'n credu bo' nhw'n gwneud rhywbeth gwahanol i brynu gwaith gan rywun fel Don McIntyre neu John Elwyn, er enghraifft.
Mae prynu darn Kyffin yn golygu prynu syniad. Mae'n syniad o ryw fath o Gymreictod sy'n broblematig iawn dwi'n credu a dyma pam mae'r ffenomen mor ddiddorol.
Mae'r ffaith ein bod ni'n cyfeirio ato fel 'Kyffin' yn dweud rhywbeth - does 'na neb arall allen ni gyfeirio ato fel 'na efo un enw.
Wrth gwrs mae sefyllfa anhygoel lle mae e wedi dominyddu'r farchnad gelf yng Nghymru ers blynyddoedd.
Os edrychwch ar y rhestr o'r deg darlun drytaf a werthwyd gan yr arwerthwyr Rogers Jones yn 2016, mae'r saith uchaf yn ddarluniau gan Kyffin.
Does neb yn dod yn agos ato yn y farchnad gelf yng Nghymru, felly beth sy'n mynd 'mlaen?
Ai'r rheswm yw, yn syml, fod pobl yn hoffi ei luniau? Na dwi ddim yn credu hynny. Mae mwy iddo na hynny.
Y peth diddorol am ei waith yw bod 'na wahaniaeth barn yn y byd celf. Mae rhai yn dwlu arno fe, ac yn aml iawn pan dwi'n mynd i gartref rhywun am y tro cynta' maen nhw'n dweud: "Mae'n rhaid i chi weld ein Kyffin"- dim "y Kyffin" ond "ein Kyffin".
Ond ar y llaw arall, ac yn arbennig ymhlith artistiaid, does ganddyn nhw ddim amser i waith Kyffin o gwbl.
Maen nhw'n negyddol iawn ynglŷn â'i waith, ond dim y gwaith fel y cyfryw yw e, achos mae'r gwaith o safon uchel o ran y crefftwaith ac yn y blaen ac mae'r delweddau'n ddigon diddorol.
Ond mae rhywbeth sy'n mynd o dan groen rhai artistiaid ynglŷn â Kyffin, sef beth mae'r gwaith yn ei gynrychioli - y 'syniad o Kyffin'. Syniad o hunaniaeth benodol yw e - hunaniaeth sy'n rhannu pobl.
Mae rhai pobl sy'n uniaethu gyda'r ddelwedd yma oedd Kyffin yn creu, sydd yn y bôn i fi yn dod allan o ryw fath o wladgarwch neu fath o Gymreictod sy'n mynd nôl i'r 19eg ganrif a chyfnod O.M. Edwards. Mae'n dod allan o'r ddelwedd o Gymru fel gwlad y mynyddoedd a'r werin bobl ac ati.
Ond mae 'na lot o bobl yng Nghymru sydd jyst ddim yn uniaethu gyda'r ddelwedd yna, yn arbennig efallai'r rheiny sydd ddim yn siarad Cymraeg.
Byswn i'n tybio bod y rhan fwyaf sy'n prynu gwaith Kyffin yn Gymry Cymraeg - beth am yr holl Gymry dinesig o gefndir diwydiannol yn y de sy'n ddi-Gymraeg? Dwi ddim yn credu ffeindiwch chi rheiny mor frwd dros waith Kyffin.
Mae'n dipyn o baradocs achos roedd Kyffin yn siarad Cymraeg wrth gwrs, ond dim dyna oedd ei iaith gyntaf a doedd e ddim yn dewis siarad Cymraeg yn gyhoeddus.
Saesneg oedd e'n siarad rhan amlaf, a hyn mewn acen anhygoel o posh. Roedd e'n dod o gefndir fonedd Sir Fôn, dim yn gyfoethog ond yn Anglicanaidd a oedd wedi dewis Saesneg fel iaith y teulu.
Mae nifer o elfennau yn gyffredin rhwng Kyffin a'i ffrind y bardd R.S. Thomas, gan gynnwys eu perthynas gyda'r iaith Gymraeg.
Roedd y ddau yn ymddangos yn hyderus a chryf, ond yn bobl ansicr iawn mewn gwirionedd. Roedd Kyffin yn ansicr fel arlunydd o'r cychwyn ac roedd e wastad yn dweud mai obsesiwn oedd ganddo, nid talent.
Dydych chi ddim yn synhwyro'r ansicrwydd yma yn ei waith - yn arbennig gyda thirluniau a'r crefftwaith hyderus. Roedd R.S yn ansicr yn grefyddol, ac roedd yn rhoi delwedd ymlaen fel Kyffin gydag acen posh iawn Seisnig.
Y tro diwethaf i mi weld Kyffin roedd e gyda R.S. yn Oriel Môn. Roedd y ddau yn hen ar y pryd ond yn cerdded rownd y lle yn chwerthin fel dau fachgen ifanc, yn hollol groes i'r ddelwedd boblogaidd o'r ddau ohonyn nhw.
Roedd Kyffin yn gymeriad cymhleth iawn ond roedd hefyd yn dioddef o iselder ysbryd, ac fe aeth drwy gyfnodau lle doedd ddim yn gallu gweithio.
Mewn cyfweliad gyda'r Llyfrgell Brydeinig dywedodd ei fod hyd yn oed wedi ystyried lladd ei hun ar un cyfnod.
Yn fy marn i, mae portreadau Kyffin yn bwysicach na'r tirluniau, a dwi'n meddwl y bydd bobl yn troi at rheiny yn y pen draw. Yn y portreadau y dewisodd eu gwneud mae rhywbeth sy'n dod drosodd yn fwy dwfn nac yn y tirluniau.
Yn y tymor byr, yn eironig, prif effaith Kyffin ar y byd celf gyfoes yng Nghymru yw ar y farchnad gelf. Y prif reswm dros dwf y farchnad gelf yw llwyddiant arwerthiannau Cymreig Rogers Jones, gyda sylw yn cael ei roi i'r ystod eang o waith Cymreig sy'n cael eu gwerthu tair neu bedair gwaith y flwyddyn.
Ond mae hyn i gyd ar gefn Kyffin, gan fod ei lwyddiant e'n propo lan y farchnad ac mae etifeddiaeth gref yno sydd ddim byd i wneud ag 'ansawdd' y gwaith, ond yn hytrach, y ffenomen.
Bydd Peter Lord yn rhoi darlith ynglŷn â gwaith Kyffin Williams yn Oriel Môn, Llangefni, 18 Mai.