Gwario £100m ar 'drawsnewid' gwasanaethau gofal ac iechyd
- Cyhoeddwyd
Fe fydd £100m yn cael ei wario yn ystod y ddwy flynedd nesaf i geisio trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn cael eu darparu, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd.
Mewn araith i Gydffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, bydd Vaughan Gething yn dweud mai'r bwriad yw targedu'r arian ar ddarparu mwy o ofal yn y gymuned, annog gwell cydweithio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a thrawsnewid gwasanaethau ysbytai.
Ond fydd y gwasanaeth iechyd, yn ôl Mr Gething, ddim yn cael defnyddio'r arian i daclo'r pwysau ar wasanaethau o ddydd i ddydd, ac mae'n rhybyddio y bydd byrddau iechyd sy'n perfformio'n gymharol wael yn cael llai o ryddid i ddewis sut i wario'r arian.
Fis diwethaf, galwodd panel o arbenigwyr am "chwyldro" yn y fordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu darparu, gan argymell symud rhagor o adnoddau o ysbytai i gymunedau.
Mae Mr Gething yn dweud y bydd £100m o gyllid iechyd ychwanegol - gafodd ei glustnodi yng nghyllideb mis Rhagfyr - yn cael ei ddefnyddio'n benodol i "gyflymu" y newidiadau sy'n cael eu cynnig gan y panel.
Yn y lle cyntaf, bydd y pwyslais ar "nifer fach o raglenni" sydd â'r effaith mwyaf, yn ogystal â chyflymu cynlluniau trawsnewid arloesol y gellir eu mabwysiadu ledled Cymru.
Fodd bynnag, mae'r Ysgrifennydd Iechyd yn rhybuddio na fydd e'n caniatáu i fyrddau iechyd ddefnyddio'r arian i lenwi bylchau yn eu cyllidebau, a bydd mwy o ryddid gan fyrddau iechyd sy'n perfformio'n well (y rhai sydd ar lefel is o oruchwyliaeth y llywodraeth) benderfynu sut i ddefnyddio'r arian.
Yn y cyfamser, bydd hefyd yn rhybuddio y gallai'r sylw diweddar i broblemau'r gwasanaeth iechyd niweidio'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.
Wrth gydnabod fod gwasanaethau wedi cael eu profi "i'r eithaf" yn ystod y gaeaf, dywedodd fod yna risg fod "beirniadaeth fyrbwyll", yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol, fod yn wrthgynhyrchiol yn y pendraw.
Mae disgwyl i Mr Gething hefyd fynegi pryderon am recriwtio gweithwyr i faes iechyd: "Dyw'r darlun sydd yn cael ei rhoi o'r GIG i'r cyhoedd ddim yn ddarlun sydd yn annog ein plant i fod y genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd a gofalwyr proffesiynol yn yr un niferoedd a'r hyn rydyn ni wedi gweld yn ddiweddar.
"Mae ffigyrau diweddaraf UCAS ar gyfer ceisiadau hyfforddi i weithio yn y maes iechyd yn dangos cwymp pryderus. Dylai hynny fod yn rhywbeth sydd yn ein gofidio ni i gyd.
"Nid wyf i yn wleidydd sydd yn claddu fy mhen yn y tywod gan obeithio y bydd 'newyddion drwg' yn mynd i ffwrdd.
"Rwyf wedi cydnabod yn gyhoeddus y pwysau mae'r gwasanaeth yn dal i wynebu. Fodd bynnag os na allwn ni drafod dyfodol gofal cymdeithasol gyda mwy o onestrwydd yna fe fyddwn ni'n methu yn ein dyletswyddau.
"Byddwn ni'n methu a sicrhau gofal iechyd a gofal cymdeithasol o safon y mae bob cymuned yng Nghymru yn haeddu. Er y peryglon a'r heriau, rwy'n parhau i fod yn optimydd."
'Angen bod yn feiddgar'
Gan adleisio'r sylwadau mewn cyfweliad BBC Cymru yr wythnos diwethaf, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd hefyd yn rhybuddio bod yr heriau sy'n wynebu iechyd a gofal wedi tyfu cymaint nad yw man newidiadau yn ddigonol bellach.
"Mae gyda ni gyfle unigryw fan hyn i newid y dyfodol er gwell. Rwy'n gwybod y byddwch chi mor awyddus â fi i dorchi llewys. Ond mae'n rhaid i bopeth o hyn ymlaen ganolbwyntio ar weithio gyda'n gilydd, heb oedi, er mwyn cael yr effaith gorau.
"Mae angen i ni fod yn feiddgar. Mae'n gyfle allwn ni ddim fforddio ei wastraffu."
Bydd Mr Gething hefyd yn ei araith yn diolch i staff y gwasanaeth iechyd am eu "hymrwymiad a'u hymdrechion" wrth ymateb i bwysau yn ystod gaeaf "eithriadol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2018