Gwrthod caniatáu i ferched chwarae golff fore Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae clwb golff ym Mro Morgannwg wedi cael eu beirniadu am wrthod rhoi'r un hawliau i ferched a dynion sy'n talu'r un ffioedd i fod yn aelodau.
Daeth y penderfyniad gan Glwb Golff Parc Cottrell yn dilyn cais gan ferch i chwarae gemau cystadleuol gyda'r dynion ar foreau Sadwrn am ei bod hi'n methu a chwarae gyda merched ganol wythnos oherwydd ei gwaith.
Dywedodd Lowri Roberts ar raglen Taro'r Post ar Radio Cymru: "Dwi'm yn gofyn i gael fy nhrin yn arbennig, ond os 'da chi wedi ymddeol da chi'n mynd ganol wythnos a 'da chi'n cystadlu ymysg eich gilydd, a dydy o ddim yn broblem.
"Ond os 'da chi'n gweithio mae hi mor anodd i chwarae."
Dywedodd rheolwr cyffredinol Parc Cottrell, Derek Smith, er bod yr adrannau gwahanol "wedi penderfynu cystadlu ar wahân ar hyn o bryd, mae'n siŵr bydd sut mae aelodau yn trefnu eu cystadlaethau yn y dyfodol yn newid ac yn addasu".
Yn ôl Golff Cymru maen nhw fel corff "wedi ymrwymo yn llwyr i sicrhau cyfartaledd o fewn y gamp".
Gosod cynsail
Yn ôl Ms Roberts fe gododd hi'r mater pan wnaeth hi a'i gŵr ymuno â'r clwb yn 2015, ond ar y pryd dywedwyd nad oedd cystadlu gyda dynion ar foreau Sadwrn yn bosib.
"Fis Ebrill llynedd penderfynais ofyn eto a gofyn i'r pwyllgor dynion y tro hwn, tybed bob hyn a hyn a fyddai modd i mi fynd allan efo'r dynion pan nad oes 'na ferch ar gael i farcio'r cerdyn a bod yn gwmni i mi, a phan nad ydyn nhw'n awyddus i chwarae'n gynnar," meddai.
"Ges i alwad ffôn gan gapten y dynion yn dweud nad oedd hyn yn bosib, ac y byddai'n gosod pob math o gynseiliau gwahanol, ac os oedden i wir am ymholi ymhellach byddai'n rhaid i mi ddod o hyd i aelod, oedd yn ddyn, i holi'r pwyllgor dynion ar fy rhan.
"A dwi'n meddwl mai dyna wnaeth fy ngwylltio i, ac ar y cam yna nes i benderfynu bod rhaid i fi wneud rhywbeth am hyn. Dydy hyn ddim yn iawn."
Dywedodd Ms Roberts iddi benderfynu "anwybyddu" eu cyngor ac fe gyflwynodd gynnig yn ystod y cyfarfod blynyddol diwethaf.
Cafodd ei chynnig ei wrthod o un bleidlais yn unig, sef pleidlais y cadeirydd.
"Do'n i ddim yn disgwyl cymaint o gefnogaeth a bod yn onest," meddai.
"Y rheswm nes i roi'r cynnig i mewn oedd er mwyn rhoi cyfle i bob aelod drafod y mater, nid jest y pwyllgor ac er mwyn dechrau'r sgwrs.
"O'n i'n meddwl os fyddai'n cael ei wrthod y byddai gen i dystiolaeth ddigonol i fynd at yr Undeb Golffio er mwyn esbonio pa mor anodd ydy hi i ferched sy'n gweithio llawn amser i gystadlu ar fore Sadwrn."
'Meiddio gofyn y cwestiwn'
Bellach mae'r Undeb Golffio wedi cynnal trafodaethau gyda Chlwb Golff Parc Cottrell.
"Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw mewn sefyllfa anghyffredin," meddai Ms Roberts.
"Dwi'n meddwl eu bod nhw'n anffodus 'mod i, fel merch sy'n gweithio llawn amser, wedi meiddio gofyn y cwestiwn.
"Dwi jyst yn teimlo os ydy'r gamp i barhau mae'n rhaid i rywun wneud rhywbeth am y peth."
Mewn datganiad dywedodd Clwb Golff Parc Cottrell: "Cwmni teuluol ydyn ni ac mae'r clwb yn agored i ferched a dynion a phobl o bob cefndir.
"Mae aelodau wedi ffurfio pwyllgorau sydd yn cynrychioli adran y merched ag adran y dynion fel sy'n draddodiadol mewn clybiau eraill.
"Mae pob adran yn trefnu cystadlaethau eu hunain ac yn cyflwyno rheolau eu hunain sy'n cyd-fynd â rheolau cenedlaethol y gamp.
"Y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod adran y merched ddim yn caniatáu i ddynion gymryd rhan yn eu cystadlaethau nhw a dyw'r dynion ddim yn caniatáu merched i gystadlu yn eu cystadlaethau nhw."
Prinder aelodau benywaidd
Dywedodd prif weithredwr Golff Cymru, Richard Dixon: "Mae Clwb Golff Parc Cottrell yn cael ei redeg yn annibynnol gyda'r clwb yn gyfrifol am wneud ei benderfyniadau ei hun.
"Fodd bynnag hoffwn wneud hi'n glir fod Golff Cymru wedi ymrwymo yn llwyr i sicrhau cyfartaledd o fewn y gamp.
"Mae golff yn unigryw, diolch i'r system handicap sydd yn golygu fod pob oed a phob rhyw yn gallu cystadlu yn erbyn ei gilydd.
"Rydym yn ymwybodol mai dim ond 13% o aelodau clybiau golff sydd yn ferched ac rydyn ni'n awyddus i gynyddu'r niferoedd yma."