Geirfa eira
- Cyhoeddwyd
Efallai nad ydyn ni'n ei weld mor aml â hynny, ond pan mae'r eira'n dod, mae gennym ni sawl ffordd wahanol o'i ddisgrifio. Ond beth fyddwch chi'n galw'r eira?
Enwau am eira:
Eira
Plu eira
Ôd
Odi ("Odi odi, blawd yn codi")
Cynneiry - eira cyntaf
Eirlaw
Graddfeydd o eira:
Bwrw eira
Pluo eira
Pluo
Bwrw plu
Bwrw eira'n drwm
Tywallt yr eira
Gwneud eira mawr
Eira mân
Esgyrn eira
Sgiffin / Sgiffen - haen denau o eira
Sgythyn - haenan o eira
Bwrw eira'n ysgafn
Ffluwch
Ffluwchan
Ffliwchan
Bwrw ffluwch
Eira mawr
Storom eira
Lluwchio eira
Eira lluwch
Manod
Lluwch eira
Lluwcho
Eira tawdd
Slwtsh
Blanced o eira
Cnwd o eira
Dan orchudd o eira
Eiraog
Trwch o eira
Mae'r eira'n glynnu
Mae'r eira'n stico
Disgrifio bod eira ar ei ffordd:
Magu eira
Mae eira ar ei ffordd
Mae hi'n hel am eira
Dywediadau:
Lle heno eira llynedd?
Disgrifiadau:
Cyn wynned â'r eira
Gwyn fel yr eira
Fe wnaeth Manon Steffan Ros gychwyn trafodaeth am eira ar ei chyfrif Twitter ddydd Mawrth:
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Rhannwch eich geiriau neu eich ymadroddion chi am wahanol farhau o eira gyda ni trwy e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.
Hefyd o ddiddordeb: