Dymchwel 'coed ansefydlog' uwchben yr A487 ger Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
CoedFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r coed yn rhan o goedwig Tan y Coed, sydd wedi bod yn tyfu ar ochr y ffordd i'r gogledd o Fachynlleth.

Bydd coed ansefydlog uwchben ffordd brysur yr A487, sy'n gorchuddio ardal cymaint â 30 o gaeau pêl-droed, yn cael eu dymchwel.

Maen nhw'n rhan o goedwig Tan-y-Coed, sydd wedi bod yn tyfu ar ochr y ffordd i'r gogledd o Fachynlleth.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dweud fod y coed "dwywaith maint y cloc yng nghanol Machynlleth" ac yn pwyso 12 tunnell.

Bydd contractwyr yn gosod ffens 900m i ddiogelu'r ffordd.

Bydd goleadau traffic ar y ffordd ger Ceinws am oddeutu dri mis, ond ni fydden nhw'n weithredol ar benwythnosau i leihau tagfeydd.

Unwaith bydd y ffens yn ei lle, bydd y gwaith yn dechrau i ddymchwel gwerth 22 hectar o goed.

Dywedodd Swyddog Prosiect ar gyfer CNC, Jared Gethin: "Mae'r coed yma'n ansefydlog ac mae'r risg iddyn nhw ddisgyn i'r ffordd ac achosi damwain yn cynyddu."