Darganfod gweddillion corff dynol ar draeth Y Felinheli
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd y gweddillion eu darganfod yn Y Felinheli fore Mercher
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod gweddillion corff dynol wedi ei ddarganfod ar draeth yng Ngwynedd.
Fe gafodd swyddogion eu galw i draeth Y Felinheli am 06:43 fore Mercher wedi adroddiadau fod rhywun wedi darganfod y gweddillion.
Mae swyddogion bellach yn gweithio i adnabod y corff, a chysylltu â'r teulu.

Dywedodd llefarydd nad yw'r amodau presennol yn caniatáu iddyn nhw wneud sylw pellach ar hyn o bryd.
Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un anesboniadwy, ac mae'r crwner wedi cael gwybod.