Dai Jones: 50 mlynedd o ddarlledu
- Cyhoeddwyd
Mae Dai Jones Llanilar yn dweud mai ffarmwr yw e yn y bôn, er iddo fod yn un o gymeriadau mwyaf cyfarwydd y byd darlledu yng Nghymru ers degawdau.
Mae'n 50 mlynedd ers iddo ddechrau darlledu, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi cyflwyno rhai o gyfresi teledu a radio mwyaf poblogaidd yr iaith Gymraeg, gan gynnwys Sion a Siân, Cefn Gwlad ac Ar Eich Cais.
I nodi'r hanner canrif hwnnw, bu'n son am ei atgofion a'i brofiadau gyda'r gyflwynwraig Catrin Haf Jones ddydd Mawrth, mewn sgwrs ym mhabell Sinemaes ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Wrth sôn am ei fagwraeth yn Llundain i werthwyr llaeth o Geredigion, dywedodd ei fod yn gwybod mai ym myd amaeth yr oedd eisiau gweithio: "Ffarmwr o'n i ishe bod, ffarmwr ydw i wedi bod, a nes daw'r alwad, ffarmwr fydda i."
Sêr y Siroedd
Dywedodd iddo ddangos dawn canu yn ifanc, a dyna gafodd iddo'r swydd gyntaf yn y cyfryngau 50 mlynedd yn ôl.
"Fe gychwynais i ar y radio. Ro'dd 'na gyfres yn mynd yr adeg hynny, "Sêr y Siroedd", ac o'n i'n foi ifanc, a fi oedd unawdydd Ceredigion am flynyddoedd, a dwi'n cofio mai Tom Bryniog oedd unawdydd Sir Ddinbych, Margaret Williams oedd unawdydd Sir Fôn, y diweddar Alun Watkins, Sir Gaernarfon ac yn y blaen... A'n llefarydd ni yng Ngheredigion oedd yn ocsiwniar, "The Golden Voice of Wales" ma bois y gwartheg yn ei alw fe, Dai Lewis."
"Do'n i erioed wedi meddwl y bydde fe di mynd ymlaen fel wnaeth e."
Addasu
Pan aeth yn gyflwynydd a gorfod rhannu ei amser rhwng ei fferm yng nghefn gwlad a Chaerdydd, dywedodd iddo addasu er mwyn llwyddo i wneud y ddau:
"Roedd gen i system hawdd iawn, cartrefol iawn. Ro'n i'n godro dau ben i'r dydd. Ro'dd Olwen yn rhoi gwartheg i mewn yn y nos. Erbyn bysen i adre, fydde dim ise mynd i'r cae i whilo amdanyn nhw, ro'n nhw ar yr iard, ac ro'n i'n godro tua 70 amser hynny.
"Ro'n i'n newid y'ng nghar bob blwyddyn. Pan o'n i'n canu a gwneud gwaith teledu, ro'n i'n gwneud 100,000 o filltiroedd o flwyddyn."
Cymeriadau
O ofyn pa gymeriadau sy'n sefyll allan i Dai wrth gyflwyno Cefn Gwlad dros y blynyddoedd, dywedodd fod pob un yn bwysig: "Ma nhw wedi newid.
"Dyw'r hen gymeriadau annwyl ddim ar gael bellach, ond mae 'na bobl ifanc sydd yn gymeriadau.
Dwi ishe gweld y Llywodraeth yn gwneud yn siwr fod Mudiad y Ffermwyr Ifanc yn cael ei ariannu."
Dywedodd hefyd fod S4C yn gaffaeliad mawr i Gymru:
"Ry ni'n ffodus ofnadwy, o gael ein sianel ein hunain, fe ddylen ni ymfalchïo ynddi.
"Mae yna nifer o raglenni da ar y teledu...ond beth ry' ni wedi ei golli yw dawn dweud pobl i siarad.
"Etholiad eleni - roeddech chi'n gwrando, ac roeddech chi'n cael dim byd, dim byd mas o'u hareithiau nhw..
"Mi fuodd yna amser - dwi'n meddwl am ffrind ac arwr mawr i mi, Elystan Morgan - ro'dd ganddo ddawn dweud, ac yn angerddol. Os cewn ni'r rheiny, dwi'n edrych yn eitha ffafriol ar y dyfodol."
Roedd yna gyfle yn y sesiwn i weld ambell glip o benodau Cefn Gwlad, gan gynnwys ei anturiaethau enwog wrth geisio dysgu sgïo yn Awstria. Roedd yn barod iawn i rannu ambell dro trwstan arall hefyd.
"Dwi'n cofio ro'n i wedi cael car newydd sbon - Capri, un llwyd a thop du iddo. Wel, o'dd e'n uffach o gar. A dwi'n cofio, es i lawr i Gaerdydd, ac ro'dd sun roof ganddo - peth mowr!
"Roedd Sion a Siân yn cael ei wneud o flaen y clwb ym Mhontcanna yn yr haf, ac ro'n i wedi parcio'r car o dan y coed, ac wedi gadael y sun roof ar agor.
"Fe ddôth y drudws yn ôl i glwydo, ac ro'dd yn seats i'n bŵ-pŵ i gyd! Dwi'n cofio 'ny'n iawn!"
Un oedd yn y gynulleidfa'n gwrando ar y sgwrs oedd y canwr enwog o Fetws Gwerfyl Goch, Trebor Edwards.
Dywedodd fod ganddo feddwl mawr o Dai Jones: "Dwi'n edrych i fyny'n ofnadwy ar Dei. Drwy ei amaethyddiaeth hefyd.
"Mae o di gwneud rhaglen Cefn Gwlad ar ein teulu, a beth sy'n braf yw bod y rhai ifainc yn y teulu yn edmygu Dei am y ffordd y mae'n trin pobl.
"Mi wnaeth raglen ar Gôr Bro Gwerfyl, ac roedd pawb yn edmygu cymaint roedd Dei yn eu helpu nhw a bod yn gefn iddyn nhw.
"Mae ei raglen nos Sul o, Ar Eich Cais, mor boblogaidd i bobl o bob oed, a hyd yn oed gan bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg!"
Hunangofiant newydd
Mae modd darllen peth o hanesion Dai yn ei hunangofiant, Fi Dai Sy' Ma, a gafodd ei chyhoeddi ym 1997, ond datgelodd wrth gael ei holi ei fod yn gweithio ar un arall gyda Lyn Ebenezer.
"Lyn sydd wrthi eto tro 'ma, a dyma fe'n gofyn i fi, "Beth wyt ti eisiau rhoi'n enw ar hwn?"
""Dwi'm yn gwybod" medde fi, Fi Dai Sy' Ma 'To?
""Ie, lled dda" medde fe, "ond beth sydd o'i le ar Tra bo Dai?
"A dyna'i enw. Y trwbl nawr yw neud yn siwr nad ydw i'n rhoi pethe o'r llyfr cyntaf yn hwn eto!"