Galw ar ysgolion i godi ymwybyddiaeth am swyddi adeiladu

  • Cyhoeddwyd
Safle adeiladu

Does dim digon yn cael ei wneud mewn ysgolion i godi ymwybyddiaeth am ystod y gyrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu, yn ôl adroddiad newydd.

Mae adolygiad o gymwysterau yn y maes hefyd yn dweud bod siaradwyr Cymraeg yn aml yn osgoi cyflawni gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg achos bod yr iaith yn gymhleth.

Yn ôl y corff rheoleiddio, Cymwysterau Cymru, mae angen cymwysterau newydd sydd yn fwy eang ond yn symlach.

Mae ymchwil diweddar yn amcangyfrif bod y diwydiant adeiladu yng Nghymru yn mynd i dyfu yn gynt nag mewn unrhyw ran arall o'r DU.

Mae'r adolygiad yn ystyried a yw cymwysterau galwedigaethol ar gyfer y diwydiant adeiladu yn ateb gofynion myfyrwyr a chyflogwyr.

Yn ôl yr adroddiad, mae ystod y cyrsiau sydd ar gael yn "ddryslyd" ac yn aml dydyn nhw ddim yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y gweithle.

Er bod dros 400 o gymwysterau gwahanol yn y maes, dydy'r rheiny ddim yn hyfforddi myfyrwyr ar gyfer holl ystod y sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant, meddai Cymwysterau Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Ym marn Dafydd Walters mae angen mwy o drafod ar y pwnc

Mae Dafydd Walters yn syrfëwr meintiau i gwmni Bouygues UK ac mae'n gweithio ar hyn o bryd ar safle ysgol newydd Ysgol Bro Dur ym Mhort Talbot.

"Mae'n gallu bod bach o ddryswch i fod yn deg.

"Mae pobl ddim cweit yn siŵr be sydd eisiau neud yn yr ysgol i ddod mewn i'r diwydiant ac mae'n galed wedyn."

Dewisiadau eang

Ond mae'n dweud bod y diwydiant yn cynnig dewisiadau eang i bobl ifanc.

"Mae'r diwydiant yn talu yn dda iawn yn ne Cymru ac mae'r diwydiant yn mynd fwy a mwy prysur efo bob dydd."

Dywedodd bod angen mwy o drafod ar y pwnc er mwyn rhoi sylw i'r hyn y gall y diwydiant ei gynnig.

"Mae'n ddiddiwedd be chi yn gallu neud yn y diwydiant hyn."

Disgrifiad,

Yn ôl Rhys Fisher mae'r diwydiant adeiladu yn cynnig sawl opsiwn o ran gyrfa.

Mae Cyfle Building Skills yn cynnig prentisiaethau yn y sector adeiladu ac mae Rhys Fisher yn ymweld ag ysgolion er mwyn hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael yn y maes.

"Galle ysgolion neud mwy fi'n credu.

"Amser o'n i yn ysgol dim ond chweched dosbarth o'n i yn gwybod a wedyn prifysgol.

"Ond fi'n mynd mewn i ysgolion lot nawr i siarad amdano'r apprenticeship routes sydd ar gael."

Iaith 'anodd ei deall'

Nododd yr adolygiad hefyd bod nifer o siaradwyr Cymraeg yn amharod i gyflawni asesiadau Cymraeg sy'n aml mewn iaith sy'n anodd ei deall.

Roedd Gareth Williams yn rhan o'r adolygiad i Gymwysterau Cymru, ac mae'n credu dylai rhan o'r asesu fod ar lafar fel bod yr asesiad ar gael i'r dysgwr "yn naturiol yn ei iaith eu hunain".

"Mae siarad efo rhywun am sut wnaethoch chi wneud hwnna, be fysa chi yn gwneud yn wahanol, a dim ond mynegi eu hunain mewn iaith dydd i ddydd yn mynd i roi fwy o hyder i fwy o bobl gael eu hasesu yn y sgiliau a'r wybodaeth trwy iaith naturiol."