Pam fod menywod yn dal yn 'anweledig' yn y byd technoleg?

  • Cyhoeddwyd
Leia Fee yn sesiwn HaciaithFfynhonnell y llun, Gweirydd Ioan
Disgrifiad o’r llun,

Leia Fee yn siarad yn Hacio'r Iaith 2018

Pam fod diffyg merched ym maes technoleg yn dal i fod yn broblem? A beth yw'r ateb?

Mae'n bwnc a gododd Leia Fee, tiwtor Technoleg Gwybodaeth, yng nghynhadledd technoleg Haciaith, dolen allanol yn ddiweddar.

Diffyg role models yw un o'r problemau mwyaf, meddai Leia - a 'dyw Lego pinc ddim yn help...

Dwi wedi bod yn siarad am hyn am bron i 15 mlynedd ers imi fod yn gweithio yn y diwydiant, a dyw pethau ddim wedi gwella.

Rhwng 10-15% o'r bobl sy'n gweithio yn y diwydiant Technoleg Gwybodaeth sy'n ferched.

Os wyt ti'n edrych ar bwy sy'n siarad yn gyhoeddus yn y maes, mae'n llawer llai.

Mae lot o brosiectau wedi bod i geisio tynnu mwy o ferched i mewn i'r diwydiant a chodi diddordeb ymhlith merched ond does dim byd wedi gweithio eto.

Maen nhw'n dweud fod y balans tua 50/50 rhwng merched a bechgyn yn yr ysgol gynradd, mae gan lot o ferched ddiddordeb yn yr oed yma, ond cyn eu bod nhw'n cymryd eu TGAU mae'r lefelau wedi mynd i lawr.

Mae'r un peth yn wir am y pynciau gwyddonol a mathemategol i gyd.

Rhan o'r broblem yw diffyg role models - dydyn ni byth yn clywed am fenywod mewn technoleg.

A phan rwyt ti yn clywed amdanyn nhw mae'r pwyslais ar "ferched mewn technoleg" yn hytrach na'r pethau ffantastig maen nhw'n ei wneud.

Ffynhonnell y llun, VERN EVANS PHOTO
Disgrifiad o’r llun,

Mae pawb wedi clywed am Elon Musk ond does dim gymaint o sylw i Gwynne Shotwell, llywydd cwmni SpaceX, a lawnsiodd roced Falcon Heavy i'r gofod fis Chwefror 2018

Roedd sylw mawr i lawns y Falcon Heavy gan SpaceX.

Mae pawb yn gwybod am Elon Musk - ond merch, Gwynne Shotwell, sy'n rhedeg y cwmni o ddydd o ddydd. Ond dydyn ni byth yn clywed ei henw hi.

Mae pobl jyst yn cymryd yn ganiataol ei fod yn rhywbeth anghyffredin i ferch.

Hefyd o ddiddordeb:

Tra'i bod yn bwysig tynnu sylw at y menywod ym maes technoleg, ar y llaw arall mae hynny yn ei hun yn gallu tynnu sylw at y ffaith ei fod yn anghyffredin.

Os wyt ti'n ferch ifanc ti ddim wastad moyn cael dy adnabod fel yr unig ferch, ti jyst yn rhywun sydd moyn gweithio mewn technoleg!

Fel arfer mae pobl yn eithaf cefnogol fel unigolion ond mae'r system yn gwneud pethau'n anodd.

Mae culture o weithio goramser a gweithio oriau hir, mae'n rhyw fath o status symbol bron, ac mae hynny'n anodd iawn i bobl sydd â theulu ac yn her i fenywod yn y diwydiant.

'Dyw e ddim achos bod pobl ddim yn dy groesawu di fel merch, ond achos bod lot o bobl yn ei gymryd yn ganiataol nad yw pobl fel nhw yn gwneud hyn, achos nad ydyn nhw'n gweld pobl fel nhw yn gwneud y pethau yma!

Felly mae'n rhaid inni wneud ymdrech i wneud merched yn fwy amlwg.

Er enghraifft, pan mae pobl yn cynllunio straeon am bethau fel y Falcon Heavy, yn lle dewis quote gan ddyn, dewis quote gan ferched.

Dynion yn creu'r strwythur

Un o'r problemau ychwanegol yn y byd TG ydy mai dynion sy'n adeiladu'r tools rydyn ni'n ei ddefnyddio.

Er enghraifft y broblem o trolls ar Twitter yn neidio ar fenywod sy'n trydar a gweiddi drostyn nhw: cafodd Twitter ei adeiladu a'i codio gan fwy o ddynion na merched.

Os byddai mwy o ferched yn rhan o'r broses o'r dechrau pan mae'r tools, y gwefannau a'r platfformau yn y cael eu hadeiladu, mae'n llai tebygol fod pethau'n cael eu hadeiladu sy'n hawdd eu defnyddio i ymddwyn yn ofnadwy a chadw lleisiau menywod i lawr.

A dyw cwmnïau mawr ddim yn helpu lot. Dwi'n casáu gyda chasineb pur Lego pinc!

Mae lot o bobl yn trio pethau, mae lot yn digwydd i drio newid y peth, ond dydyn ni ddim yn gwybod eto beth sy'n mynd i weithio!

Tip gan Leia: Ewch i wefan Proporti.onl, dolen allanol i weld faint o ddynion a faint o ferched rydych yn eu dilyn ar Twitter - a gwnewch ymdrech i ddilyn mwy o fenywod.

Barn Llio Angharad - blogiwr a mam ifanc

Ffynhonnell y llun, Llio Angharad
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llio Angharad yn credu bod technoleg newydd yn ei gwneud yn haws i famau ifanc barhau i weithio yn y maes y dyddiau hyn

"Y prif reswm bod gymaint o ferched ddim yn gweithio yn y maes ydy eu bod yn mynd ar famolaeth ac wedyn ddim yn gallu dringo'r ysgol gystal â dynion a ddim yn cael yr un chwarae teg," meddai Llio Angharad a gyflwynodd ei flog cynta' yn 2018 tra'n bronfwydo ei babi., dolen allanol

Dydi hi ddim eisiau i'r ffaith fod ganddi fabi tri mis oed ei stopio rhag parhau i weithio fel dylunydd ac adeiladwr gwefannau.

"Rŵan gan bod pobl efo cyfrifiaduron, laptops a'r we mae merched yn gallu cario 'mlaen i weithio.

"Mae angen normaleiddio'r peth - mae merched wedi bod yn cael babis ers miloedd o flynyddoedd ond be' sy'n newydd ydy bod merched yn gallu cael gyrfa tra'n cael babis a magu plant.

"Efo ymgyrchu a gweithio'n galed dwi'n meddwl fysan ni'n gallu cael mwy o ferched yn y byd tec.

"Dwi'n meddwl y bydd y ffigyrau yn wahanol iawn mewn ychydig o flynyddoedd."