Gwaith pwyllgorau'r Cynulliad yn ddiangen medd AC UKIP

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gareth Bennett y gallai pwyllgorau gael chwech yn hytrach nag wyth aelod

Mae llawer o waith pwyllgorau'r Cynulliad yn "ddiangen", yn ôl un o ACau UKIP.

Dywedodd Gareth Bennett y gallai rhai o'r pwyllgorau hefyd gyfarfod unwaith bob pythefnos yn hytrach nag yn wythnosol.

Daeth ei sylwadau wedi i ACau gymeradwyo penderfyniad i ymgynghori ar argymhellion panel arbenigol oedd wedi edrych ar ddiwygio etholiadol.

Fe wnaeth y panel alw am gael 20 i 30 AC ychwanegol, yn ogystal â gostwng yr oed pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad i 16.

'Wir angen y gwaith?'

Cafodd y Cynulliad y grym i newid y ffordd mae aelodau'n cael eu hethol yn dilyn Deddf Cymru 2017.

Mae'r panel, gafodd ei gadeirio gan yr Athro Laura McAllister o Brifysgol Caerdydd, wedi argymell newid y system bleidleisio i'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (Single Transferable Vote).

Roedd hefyd yn dweud y gallai cwota rhyw gynyddu nifer y menywod yn y Senedd, ac y dylid ystyried galluogi ACau i "rannu" eu swyddi er mwyn hwyluso pethau i bobl oedd ag anableddau neu ddyletswyddau gofal.

Fe wnaeth y panel hefyd argymell gostwng yr oed pleidleisio i 16, a bod hynny'n cyd-fynd ag "addysg wleidyddol a dinasyddiaeth briodol".

Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr adroddiad y byddai cadw nifer yr ACau i 60 yn peryglu eu gallu i wneud eu gwaith yn effeithiol

Ddydd Mercher fe wnaeth ACau basio penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i ymgynghori ar yr argymhellion yn ddiwrthwynebiad.

Ond wrth siarad yn y siambr dywedodd Mr Bennett: "Os ydyn ni'n edrych ar raglen waith holl bwyllgorau'r Cynulliad, oes wir angen i'r holl waith yma gael ei wneud?

"Mae'n rhaid i mi ddweud, yn fy marn i, nad oes angen llawer ohono.

"Felly os yw llawer o waith y pwyllgorau yn ddiangen, gallai rhywfaint ohono gael ei dynnu oddi yno gan leihau'r rhaglen waith yn sylweddol."

Croesawu

Dywedodd yr AC Ceidwadol Angela Burns fod angen cefnogi Comisiwn y Cynulliad wrth iddyn nhw gynnal "proses ymgynghori drwyadl a chynhwysol".

Cafodd yr adroddiad a'r ymgynghoriad eu croesawu gan Simon Thomas o Blaid Cymru, a dywedodd Vikki Howells o'r Blaid Lafur eu bod yn edrych ymlaen at "fynd i'r afael â chasgliadau" yr ymgynghoriad.

Dywedodd y Llywydd Elin Jones ei fod nawr yn gyfle i holi pobl ar draws Cymru am "sut i ddatblygu ein Senedd ni ar gyfer 20 mlynedd nesaf datganoli".

Bydd angen i unrhyw ddeddf yn cyflwyno newidiadau gael ei basio gyda mwyafrif o ddau draean yn y Cynulliad.