'Taclo unigrwydd ac arwahaniad yn flaenoriaeth'
- Cyhoeddwyd

Mae taclo achosion o unigrwydd ac arwahaniad cymdeithasol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, yn ôl y gweinidog dros blant a gofal cymdeithasol, Huw Irranca-Davies.
Dywedodd y Gweinidog fod unigrwydd ac arwahaniad yn un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r Cymry, yn enwedig pobl dros 80 oed.
Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi llunio nifer o gynlluniau i geisio lleihau unigrwydd.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwell cefnogaeth iechyd meddwl, teithiau bws am ddim, nofio am ddim i bobl oedrannus a chynorthwyo pobl hŷn i ddefnyddio'r we.

Yn ychwanegol bydd Llywodraeth Cymru yn:
Adnabod rhannau o faes gorchwyl Llywodraeth Cymru allai gael eu cyflymu i daclo'r broblem;
Yn ystod 2018, strategaeth croes-lywodraethol ar unigrwydd ac arwahaniad gyda'r strategaeth derfynol i'w chyhoeddi ym mis Mawrth 2019;
Comisiynu gwaith i asesu effaith unigrwydd ac arwahaniad ar iechyd a lles ac os yw pobl sy'n dioddef o'r problemau hyn yn gwneud mwy o ddefnydd o wasanaethau cyhoeddus.

Huw Irranca Davies yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am blant a gofal cymdeithasol
Dywedodd Huw Irranca Davies: "Mae unigrwydd ac arwahaniad yn fater iechyd cyhoeddus allai effeithio ar lawer o wahanol grwpiau o bobl mewn gwahanol gyfnodau o'u bywydau - ond yn arbennig, mae'n broblem fawr i lawer o bobl hŷn yng Nghymru.
"Mae rhaid iddi fod yn flaenoriaeth i rwystro pobl rhag teimlo'n unig ac arwahan, bydd hyn wedyn yn gwella bywydau pobl a bydd llai o ofyn ar y gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau cyhoeddus.
"Dwi'n benderfynol o ddefnyddio'r egni a'r adnoddau o'r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ddatblygu ymateb hirdymor, cydlynol a holistig i unigrwydd ac arwahaniad yng Nghymru," meddai.