Gwelliannau iechyd meddwl yn Sir Conwy yn 'rhy araf'

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Conwy wedi bod yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i wella gwasanaethau iechyd meddwl

Mae Cyngor Conwy wedi penderfynu i barhau gyda chytundeb i gydweithio gyda'r bwrdd iechyd lleol i wella gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, er gwaethaf rhwystredigaeth bod y gwelliannau yn cael eu gweithredu "yn araf".

Roedd adroddiad o flaen cabinet y cyngor ddydd Mawrth yn trafod pa gynnydd sydd wedi bod ers iddyn nhw ofyn am gymorth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i wella rhai elfennau o'r gofal iechyd meddwl yn Sir Conwy.

Mae'r adroddiad yn dweud bod problemau "diwylliannol" a "rheolaethol" a materion yn ymwneud ag arweinyddiaeth y bwrdd yn amharu ar sicrhau "cynnydd boddhaol".

Mae BBC Cymru wedi gofyn wrth y bwrdd iechyd am ymateb, ond yn ôl un o reolwyr y cyngor mae'r sefyllfa wedi dechrau gwella yn tair wythnos diwethaf.

'Newidiadau ar lawr gwlad'

Dywedodd Tesni Hadwin, sy'n gyfrifol am wasanaethau ar gyfer pobl fregus, bod staff gwasanaethau cymdeithasol a'r GIG yn cyfarfod bob wythnos, a bod "newidiadau i'w gweld ar lawr gwlad".

Fe gytunodd y cyngor i gydweithio'n agosach gyda'r bwrdd iechyd wedi i nifer o adolygiadau fynegi cyfres o bryderon difrifol, a chynnydd mawr yn nifer hunan-laddiadau rhwng 2012 a 2014.

Fe gafodd ymgynghorydd annibynnol ei gomisiynnu gan y bwrdd ac fe wnaeth y cyngor gymeradwyo cynllun newydd i ddarparu gwasanaethau haf diwethaf.

Ond mae'r awdurdod yn dweud bod y cynllun newydd wedi ei ohirio tra bo'r bwrdd yn ystyried cynlluniau ad-drefnu iechyd meddwl ehangach.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod salwch hir dymor un o uwch swyddogion y bwrdd wedi amharu ar weithredu'r rhaglen o welliannau.

Diffygion sylfaenol

O ganlyniad i'r cyfan, dywed yr adroddiad fod gwasanaethau "ddim yn cyrraedd y safonau rydym yn eu dyheu" a bod diffyg cefnogaeth addas yn risg i iechyd a lles defnyddwyr gwasanaeth.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Gareth Jones, bod diffygion sylfaenol gan gynnwys "cadw amser, cadw cofnodion, pobl ddim yn cael cyswllt gyda'r un aelod o staff.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ddiffygion 'sylfaenol', yn ôl arweinydd Cyngor Conwy, Gareth Jones

"Roedden ni i fod i weld integreiddio, ac fe ddylai integreiddio olygu integreiddio mewn maes risg uchel."

Roedd yr opsiynau o flaen y cabinet yn cynnwys un i ddod â'r cytundeb gyda'r bwrdd iechyd i ben, ac i staff y cyngor fod yn gyfrifol unwaith yn rhagor am reoli gwasanaethau iechyd meddwl yn y sir.

Ond wedi'r penderfyniad i barhau gyda'r trefniadau presennol fe fydd staff y cyngor a'r GIG yn parhau i gynnal gwasanaeth ar y cyd o ganolfannau Roslin a Nant y Glyn yn Llandudno a Bae Colwyn.

Dywedodd y cynghorydd Liz Roberts, sy'n gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol: "Mae angen i'w bwrdd wybod bod yn rhaid iddyn nhw gyflawni."