Cadeirydd Plaid yn galw am beidio 'lladd ar gyd-aelodau'
- Cyhoeddwyd

Mae cadeirydd Plaid Cymru wedi galw ar aelodau'r blaid i beidio â "lladd ar gyd-aelodau" ar-lein.
Dywedodd Alun Ffred Jones y gallai camau disgyblu gael eu cymryd os oedd pobl yn cael eu canfod yn anfon "ymosodiadau personol" at ei gilydd.
Daeth hynny wedi i aelod blaenllaw o'r blaid gwyno am "fygythiadau cudd" dros y cyfryngau cymdeithasol wedi iddi arwyddo deiseb yn erbyn Neil McEvoy.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid fod y rhybudd wedi dod yn sgil yr awyrgylch bresennol ar gyfryngau cymdeithasol.
Ychwanegodd nad oedd yn ymateb yn uniongyrchol i amgylchiadau yn ymwneud â Mr McEvoy, sydd wedi ei wahardd o grŵp y blaid yn y Cynulliad.
Cyfrifon dienw
Mewn e-bost gafodd ei anfon ddiwedd mis Ionawr, dywedodd Mr Jones fod gan y cyfryngau cymdeithasol "le canolog wrth gyfathrebu â phobl Cymru".
"Ar y llaw arall, rydym yn condemnio unrhyw gamddefnydd o'r cyfryngau sy'n lladd ar gyd-aelodau neu yn ymosodiadau personol," meddai.
"Mae dangos parch at ein gilydd yn un o'n gwerthoedd creiddiol ac yn rhan o'n Rheolau Sefydlog.

Fe wnaeth Helen Mary Jones arwyddo deiseb yn galw ar y blaid i beidio â gadael i Neil McEvoy ailymuno â'r grŵp yn y Cynulliad
"Bydd unrhyw aelod sy'n torri'r rheol hon ac yn amharchu cyd-aelod neu yn defnyddio ieithwedd ymfflamychol yn agored i gamau disgyblu.
"Mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol heb wynebu camdriniaeth neu fygythiadau."
Ychwanegodd fod rhai ymosodiadau ar aelodau wedi digwydd o gyfrifon dienw.
Doedd dim ffordd gan y blaid o wybod pwy oedd yr unigolion hynny, meddai Mr Jones, ond "cofiwch fod modd i chi adrodd cwyn am bobl o'r fath i reolwyr y platfform dan sylw os ydynt yn postio negeseuon dilornus".
'Bygythiadau ac ensyniadau'
Rai dyddiau cyn i'r e-bost gael ei anfon dywedodd cyn-AC a chyn-ddirprwy arweinydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones ei bod wedi derbyn "bygythiadau cudd, galwadau am fy niarddel a honiadau niwlog am fy rhan honedig i mewn rhyw fath o gynllwyn dychmygol" ar Facebook.
Ychwanegodd ei bod wedi derbyn y negeseuon ar ôl arwyddo deiseb gafodd ei rhannu'n awtomatig ar ei thudalen, oedd yn galw am beidio â gadael i Mr McEvoy ailymuno â grŵp Plaid.
Roedd y ddeiseb yn dyddio nôl i gyn ei waharddiad.

Dywedodd Helen Mary Jones fod pobl wedi ei bygwth ar-lein wedi iddi arwyddo'r ddeiseb
Dywedodd Ms Jones y byddai wedi bod yn well iddi ddatgan ei chefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, yn hytrach nag arwyddo'r ddeiseb.
Ond mynnodd na fyddai hi'n goddef "sarhau a bygythiadau ac ensyniadau", gan ddweud y byddai hi'n cwyno am bobl os oedd angen.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae Plaid Cymru yn cymryd ei hagenda o barch o ddifrif.
"Yn yr hinsawdd bresennol ble mae sarhau ar-lein wedi cynyddu, mae hi ond yn briodol i'r blaid gyflawni ei dyletswydd i atgoffa'r aelodaeth o'r ffaith honno."