Pêl-droediwr yn difaru 'peidio dweud yn gynt' am Bennell

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dylan Jones oedd yn holi Matthew Monaghan, sy'n honni iddo gael ei gam-drin gan Barry Bennell

Mae cyn bêl-droediwr o Wynedd wedi dweud ei fod yn byw gyda'r euogrwydd o "beidio dweud yn gynt" am y gamdriniaeth mae'n honni iddo ddioddef gan Barry Bennell.

Mae Bennell wedi'i ganfod yn euog o 43 cyhuddiad o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn 11 o ddioddefwyr, a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 19 Chwefror.

Roedd Bennell, sy'n 64 oed, yn gweithio gyda thimau ieuenctid Crewe Alexandra a Manchester City yn y 1980au.

Pan yn 11 oed roedd Matthew Monaghan - sy'n wreiddiol o Bwllheli - ar lyfrau Crewe Alexandra ac yn bêl-droediwr addawol disglair.

Mae'n dweud i Bennell ei gam drin pan oedd yn aros yn ei gartref, ac yn ôl Mr Monaghan mae'n dal i gael "hunllefau" am ei brofiadau erchyll.

"Fel arfer roeddwn yn cael trên o Fangor ar ôl ysgol ar ddydd Gwener i Crewe, ac roedd o [Barry Bennell] yn ein pigo fyny ac roedden ni'n aros yn ei gartref tan ddydd Sul.

"Roedd 'na bob dim yna, sgrîns massive, pool tables, fruit machines. Weithiau roedd 'na ddau neu dri o hogiau yn aros yno, weithiau sixteen neu seventeen," meddai Mr Monaghan.

'Deffro ac roedd o yna'

I ddechrau, dywedodd ei fod "wrth ei fodd" o fod yno am fod Bennell yn gadael i'r bechgyn "watchad ffilmiau fysa mam neu dad byth yn gadael i ni watchad, roedd wastad yn rhoi horror films ymlaen".

Ychydig wedyn fe ddechreuodd y camdriniaeth.

Mewn cyfweliad arbennig gyda Dylan Jones ar raglen Manylu BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Monaghan fod Barry Bennell wedi mynd fewn i'w ystafell wely.

"Mi oni'n cysgu, neshi jyst deffro ac roedd o yna."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Barry Bennell yn ymddangos dros linc fideo o'r carchar yn Milton Keynes yn ystod yr achos yn Llys y Goron Lerpwl

Roedd y gamdriniaeth yn digwydd yn amlach pan nad oedd cymaint o fechgyn yn aros yng nghartref Bennell yn ôl Mr Monaghan.

"Os oedd na lot yna, mi oeddwn yn sâff.

"O'n i'n casáu weithiau, pan oedd o'n deud ar ôl i ni gyrraedd, mai dim ond fi a boi arall, neu dim ond fi a dau arall oedd yn aros, mi oeddwn yn gwybod base rhywbeth yn digwydd."

Dywedodd Mr Monaghan mai cyffwrdd yn anweddus oedd Bennell yn ei wneud i ddechrau ond "ar ôl tri i bedwar mis aeth yn bellach".

'Byw gyda'r guilt'

Mae Mr Monaghan yn honni fod Bennell wedi ei dreisio ddwy waith ac wedi ceisio gwneud eto.

Ond yn ôl Mr Monaghan, doedd dim trydydd tro oherwydd ei fod "yn hogyn deuddeg oed, roeddwn wedi cael digon".

Ar ôl iddo atal Bennell dywedodd nad oedd wedyn yn cael ei ddewis i chwarae, gan ddisgrifio Bennell fel bwli'n cael "yr hogiau eraill i chwerthin" arno.

Ni wnaeth Mr Monaghan ddweud wrth neb am flynyddoedd am y gamdriniaeth: "Roeddwn eisiau chwarae football i ddechrau, y shame, roedd o'n embarrassing, ond y peth mwyaf roeddwn eisiau chwarae football."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Matthew Monaghan - sy'n wreiddiol o Bwllheli - ar lyfrau Crewe Alexandra yn 10 oed ac yn bêl-droediwr addawol

Wrth edrych yn ôl mae'n dweud ei fod yn difaru na ddywedodd yn gynt, a'i fod yn "byw gyda'r guilt pob diwrnod".

"Dwi wedi dysgu i fyw 'efo fo, ond weithiau dwi'n cael bad days", meddai.

"Os faswn i wedi dweud yr adeg yna, ella fysa fo heb dwtchad neb arall."

Mae 86 o gwynion pellach wedi eu hadrodd gan ddioddefwyr sy'n honni fod Bennell wedi'u cam-drin.

Dal i gael hunllefau

Dywedodd Mr Monaghan ei fod yn dal i gael hunllefau bod "rhywun wrth ymyl gwely fi, rhywun yn trio dod fewn i gwely fi, pan dwi'n deffro dwi'n meddwl fy mod i dal yn y tŷ yna".

Yn fuan yn ei arddegau, ac yntau'n chwaraewr addawol ar lyfrau Manchester United, fe gerddodd Mr Monaghan i ffwrdd o'r gamp yn 19 oed.

Un ffordd mae Mr Monaghan yn ymdopi gyda'r hunllefau yw mynd "allan i yfad" sy'n gwneud iddo "anghofio am bethau".

Un diwrnod mae Mr Monaghan yn gobeithio gallai ei achos gyrraedd y llys.

"Os dwi'n mynd i cwrt ac yn ei wynebu fo, fyddai'n hapus i ddeud y gwir, dyna'r unig reswm dwi wedi siarad efo'r heddlu...

"Dwi eisiau ei weld o, i sbïo i'w wyneb o.

"Dwi eisiau weld ei llygada fo, i weld sut reaction gai. Dwi'n gwbod be nai weld, gai riw smirk bach.

"Dydw i ddim yn hogyn bach ddim mwy, 'sgenai ddim o'i ofn o ddim mwy."

Bydd cyfweliad Matthew Monaghan ynghyd a'i fam Peta i'w glywed yn llawn mewn rhifyn arbennig o Manylu am 12:30 19 Chwefror ar BBC Radio Cymru