Disgyblion Safon Uwch yn dal heb werslyfrau gan CBAC

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Sefyllfa gwerslyfrau disgyblion safon uwch yn 'annheg'

Mae bwrdd arholi CBAC yn cael eu cyhuddo o "fethu" disgyblion, gyda rhai yn dal i ddisgwyl am werslyfrau dri mis cyn eu harholiadau.

Mae'r oedi yn effeithio ar fyfyrwyr sy'n astudio Athroniaeth a Moeseg, rhan o Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol.

Doedd CBAC ddim yn gallu cadarnhau faint o fyfyrwyr sy'n disgwyl am y gwerslyfrau, ond dywedodd bod yr oedi'n destun pryder a'u bod yn gweithio i'w cyhoeddi cyn gynted â phosib.

Dywedodd y Cynghorydd Garffild Lloyd Lewis, sy'n gyfrifol am addysg a sgiliau ar gabinet Cyngor Conwy, ei bod yn sefyllfa "annheg".

Fe ddechreuodd disgyblion weithio tuag at eu harholiadau Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol ym mis Medi 2017, ond maen nhw wedi gorfod defnyddio nodiadau a thaflenni sydd wedi'u paratoi gan eu hathrawon nes i'r gwerslyfrau gyrraedd.

'Cwbl annerbyniol'

Dywedodd y Cynghorydd Lewis: "Mae'n gwbl annerbyniol, yn bosib yn waeth nag oeddem ni'n feddwl.

"Y diweddara' ydy bydd rhai o'r gwerslyfrau 'ma ddim ar gael tan fis Ebrill.

"Mae arholiadau yn digwydd ym mis Mai, felly mae rhai o'n disgyblion ni ac ein staff athrawon mewn sefyllfa anodd iawn," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd Sana, sy'n fyfyriwr Safon Uwch yn Ysgol y Creuddyn yn Llandudno, bod cael gafael ar nodiadau Cymraeg yn anoddach fyth.

"Mae ein hathrawes yn eitha' dyfeisgar gyda beth mae hi'n ei ddarganfod ar y we, ond am ein bod yn ysgol Gymraeg mae hi'n anodd dod o hyd i adnoddau," meddai.

"Mae llawer ohono wedi'i gyfieithu, a dyw hynny ddim yn grêt am y gall pethau newid ychydig wrth gyfieithu.

"Mae'n rhwystredig - heb y gwerslyfrau dydyn ni ddim yn gallu gweld beth mae CBAC eisiau gennym ni yn yr arholiadau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sana wedi gorfod defnyddio nodiadau eraill nes i'r gwerslyfrau gael eu cyhoeddi

Dywedodd llefarydd o CBAC eu bod "wedi bod mewn cysylltiad ag Illuminate Publishing i leisio pryderon am yr oedi yng nghyhoeddiad y gwerslyfr".

Ychwanegodd bod problemau wedi bod â chynnwys ochr Moeseg y cwrs, a bod y cyhoeddwyr felly wedi penderfynu ei droi yn ddau werslyfr gwahanol.

Mae gwerslyfr Athroniaeth yn cael ei gyhoeddi ar hyn o bryd, a dywedodd CBAC y bydd ar gael yr wythnos nesaf.

Dywedodd y llefarydd bod Illuminate Publishing wedi cytuno hefyd i gyhoeddi'r deunydd ar wefan CBAC unwaith y bydd y drafft terfynol o'r gwerslyfr wedi'i orffen.

"Rydyn ni hefyd wedi datblygu adnoddau dwyieithog sydd ar gael ar ein gwefan i gefnogi athrawon a disgyblion," meddai'r llefarydd.