Gwahardd Chwaraeon Cymru achos pryder 'camweithredu'
- Cyhoeddwyd
Cafodd gwaith bwrdd Chwaraeon Cymru ei wahardd oherwydd pryderon gan weinidogion bod y bwrdd yn camweithredu, mae BBC Cymru yn ei ddeall.
Y gred yw nad yw'r gwaharddiad dros dro, gafodd ei gyhoeddi mewn datganiad ysgrifenedig ddydd Mercher, yn ymwneud yn uniongyrchol gydag adolygiad mewnol oedd yn feirniadol iawn.
Ond nid yw'n glir os oes cysylltiad rhwng yr adolygiad a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ymyrryd.
Mae'r adolygiad, gafodd ei gomisiynu gan y cadeirydd Paul Thomas, wedi ei weld gan BBC Cymru.
'Mwy o gwestiynau'
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd y Gweinidog am Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans, bod penderfyniad y llywodraeth o ganlyniad i faterion sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar.
Roedd yr adolygiad mewnol gan Mr Thomas yn dweud bod y corff mewn perygl o "sefyll yn llonydd", gan gyhuddo rheolwyr o fod yn anfodlon gwrando a chysylltu gyda phobl allanol.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru bellach yn ymchwilio i'r corff, sy'n hyrwyddo chwaraeon ar y lefel uchaf ac ar lawr gwlad.
Y gred yw y bydd yr ymchwiliad yn parhau tan diwedd y flwyddyn.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid y llywodraeth, Mark Drakeford: "Y neges bwysig iawn i bobl sy'n dibynnu ar Chwaraeon Cymru yw bod y gwaith o ddydd i ddydd yn parhau."
Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi wedi galw am fwy o wybodaeth ar y mater.
Dywedodd Russell George: "Mae angen mwy o dryloywder gan Lywodraeth Cymru ar y mater, a dylai'r gweinidog sicrhau ei bod yn ateb cwestiynau cyn gynted â phosib.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad difrifol iawn ynglŷn â rheolaeth corff cyhoeddus, ac mae'r datganiad yma yn codi mwy o gwestiynau nag atebion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2016